Sut i’w adnabod
Mae dolffiniaid Risso yn gadarn a chryf o ran edrychiad ac mae eu lliw yn llawer goleuach nag unrhyw ddolffin arall yn nyfroedd Cymru ac Iwerddon. Mae eu cyrff llwyd golau / gwyn yn aml yn cael eu gorchuddio gan greithiau. Credir bod hyn o ganlyniad i ymladd chwarae garw neu wrth hela. Maen nhw’n tyfu hyd at 4 metr o hyd ac maen nhw’n gallu pwyso 500kg. Mae’n hawdd iawn dod o hyd i’r pen bach sydd fel lwmp a’r esgyll siâp cryman o gwmpas Cymru ac Iwerddon.
Ecoleg, dynameg gymdeithasol a nodweddion tymhorol
Mae dolffin Risso i’w gweld ledled y byd mewn moroedd a chefnforoedd tymherus, isdrofannol a throfannol. O gwmpas y DU, maen nhw i’w gweld gan amlaf o amgylch De Orllewin a Gogledd Orllewin Cymru, yr Alban, Cernyw, Ynys Manaw ac Iwerddon. Maen nhw’n aml yn cael eu gweld mewn heidiau o 5-20 gan ddod i’r arwyneb yn araf ond maen nhw hefyd yn gallu bod yn egnïol ac yn chwareus wrth ddod allan o’r dŵr. Gan fod yn well ganddyn nhw ddŵr dwfn, maen nhw’n haws eu gweld ar y môr, ond mewn ardaloedd lle mae llethrau serth, gellir eu gweld yn agos iawn at y lan.
Mae dolffiniaid Risso yn bwydo ar gramenogion, pysgod a cheffalopod sy’n cynnwys môr lewys, octopws ac ystifflogod, sy’n bwydo’n aml yn ystod y nos wrth i’r ysglyfaeth symud tuag at wyneb y dŵr ac mae’n haws ei ddal.
Dolffiniaid Risso o gwmpas Pen Llŷn
Yr amser gorau i weld dolffiniaid Risso o’r lan yw rhwng mis Mai a mis Hydref. Mae llwybr yr arfordir yn Uwchmynydd yn fan gwylio perffaith i chi edrych i lawr y clogwyni serth i’r dyfroedd dwfn lle mae heidiau’n pasio o bryd i’w gilydd. Ynys Enlli yw un o'r ychydig leoliadau lle gellir eu gweld yn gyson o'r tir a dyma’r lle gorau i gael cipolwg arnyn nhw heb gwch.
Dolffiniaid Risso ar hyd arfordir Iveragh
Nid yw mor gyffredin â rhywogaethau eraill. Mae dolffiniaid Risso wedi’u gweld o glogwyni a phentiroedd fel Bolus Head, Bray Head a Hog’s Head. Mae sefyll ar fan uwch yn ei gwneud yn haws gweld eu cyrff gwyn drwy’r dŵr.
Welwch chi ddolffin Risso? Mae cyrff gwyn ac esgyll dorsal tywyll dolffiniaid Risso yn eu gwneud yn hawdd eu hadnabod, hyd yn oed o bell (a gyda dim ond camera ffôn symudol) – Christina Winkler
Comments