top of page
Logo Bioblitz_BioBlitz Logo_White.png

Plas yn Rhiw
02.06.2022

20220702Llanbedrog110.jpg
BioBlitz Plas yn Rhiw 

Mae Bioblitz yn ras yn erbyn amser i gofnodi'r amrywiaeth o fywyd gwyllt a geir mewn lleoliad penodol. Ymunwch â ni yn Plas yn Rhiw dydd Gwener 2il o Fehefin i'n helpu i gofnodi cymaint o fywyd gwyllt â sy'n bosib.

Mae amserlen llawn gweithgareddau wedi'u cynllunio gydag amrywiaeth o arbenigwyr bywyd gwyllt yn sicrhau ein bod wedi archwilio cymaint o'r gwahanol gynefinoedd a geir yn yr ardal â sy'n bosib. O dripiau cychod i chwilio am adar môr, chwilota'r traethlin am wyau siarc, mwynhau corws y wawr, crwydro'r gerddi yn chwilio am gennau, bydd digon o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt drwy gydol y dydd.

Mae'r holl weithgareddau am ddim. 

Amserlen
BioBlitz
Plas yn Rhiw.png
7am - Taith gerdded corws y wawr

Un ar gyfer y rhai sy'n codi'n gynnar - Ymunwch â Ben Porter i ddysgu sut i adnabod adar o'u cân a gwerthfawrogi natur ar doriad y wawr.

9.30am – Tripiau cychod

Bydd y trip cyntaf yn gadael Rhuol am 9:30, bydd wedyn yn mynd allan i'r mor ac ar hyd yr arfordir yn chwilota am rhai o'r creaduriaid morol sy'n byw yno. 
Nifer cyfyngedig - rhaid archebu o flaen llaw.

Cliciwch yma i archebu lle

10am – Mamaliaid Morol

Ymunwch â Dawn Thomas o Ymddiredolaeth Natur Gogledd Cymru ar daith i chwilio am famaliaid morol ym Mae Ceredigion.

11am – Cennau

Amser i dyllu allan yr chwyddwydr wrth i ni fynd i o amgylch Plas yn Rhiw gyda Judith Hedges i adnabod cymaint o gennau â phosibl.

11:30am – Pryfaid Cop

Ymunwch â Richard Gallon o Gymdeithas Arachnadegol Prydain ar daith i ddysgu mwy am bryfaid cop a'u hymddygiadau diddorol.

12pm – Ymlusgiaid ac Infertebratau

Dewch am dro gyda Ben Porter i chwilota am ymlusgiaid ac infertebratiau o gwmpas Plas yn Rhiw.

12:30pm – Chwilota' arfordir

Dewch i chwilota'r arfordir gyda staff  Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i ddysgu am rhai o'r creaduriaid sy'n byw ar ein harfordir. 

1:30pm – Cyfri Tegeirianau, rhedynen a phlanhigion

Ymunwch â Jo Porter ar ein cyfrif tegeirianau blynyddol yn y berllan, a chofnodi'r planhigion sy'n tyfu yn ein coedwig gan ffocysu ar redynen. 

2pm - Brân Goesgoch ac adar

Ymunwch â Jack Slattery o'r RSPB am daith ar hyd y llwybr arfordir i chwilota am Frain Coesgoch ac adar eraill

3pm - Gwenyn Mêl

Ymunwch â John Rhys, gwenynwr lleol sy'n cadw cychod hyd a lled Llŷn - gan gynnwys Plas yn Rhiw, am daith fer a sgwrs am gadw gwenyn.

 

4pm - Taith gyda'r garddwyr 
Ymunwch â garddwyr Plas yn Rhiw am daith o gwmpas y gerddi. Dewch i ddysgu mwy am sut all garddio fod o fudd i natur.
Bumblebee.png
Bioblitz.jpg
Figure 4a.JPG
Stondinau BioBlitz

Dyma restr o'r  stondinau fydd yn bresennol yn BioBlitz Plas yn Rhiw. Galwch draw i ddweud helo ac i gymryd rhan yn rhai o'r gweithgareddau!

Cofnod 

Ymunwch â Richard Gallon i gofnodi popeth sy’n cael ei weld ar ôl y gweithgareddau yn y ‘base camp’.

 

Cymuned Llên Natur

Ymunwch â Duncan Brown, Bruce Hurst , Dominic Kervegant, Hywel Madog a Kristen Kelly i edrych ar wyfynod sydd wedi eu dal yn y trap. 

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Stondin wybodaeth sy’n cynnwys pamffledi y 5 Mawr, pecynnau antur Llanbedrog a gwybodaeth am yr ardal.

 

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Stondin wybodaeth gyda Dawn Thomas a Kirsty Brown o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

 

RSPB

Stondin wybodaeth gyda Jack Slattery o RSPB

LIVE webiste icons_Walking Trail-13.png

Cwestiynnau? Cysylltwch

Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn neu ymholiad cyffredinol ar BioBlitz Plas yn Rhiw yna cysylltwch â aelod o'r tîm sydd yn barod i helpu.

LIVE webiste icons_Walking Trail-09.png
NTI James Dobson_edited.jpg
bottom of page