top of page

Saffari Bywyd Gwyllt Pen LlÅ·n

Un o’r prosiectau cyffrous dan arweiniad Robert Parkinson o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r saffaris bywyd gwyllt sy’n adnabod pum rhywogaeth allweddol a chyldeithiau cerdded o gwmpas safleoedd Ecoamgueddfa LlÅ·n.

 

Nod y gwaith yw annog pobl i fynd allan i ganol byd natur yr ardal i chwilio am y rhywogaethau sy’n cartrefu o gwmpas y safleoedd. Pa well ffordd o wneud hyn na gweithio gydag ysgolion lleol i ysbrydoli plant fydd, yn eu tro, yn annog eu rhieni i fentro allan?

​

Cafodd y plant gyfle i fynd ar deithiau natur, astudio’r rhywogaethau yn yr ysgol a chymryd rhan mewn gweithdai celf tu mewn a thu allan er mwyn creu’r mapiau hyfryd yma dan arweiniad artist lleol. Mae eu gwaith nhw a’r plant yn werth eu gweld.

Saffari Bywyd Gwyllt Porthor_Ysgol Tudweiliog.jpg
bottom of page