top of page
partners-header.jpg

Partneriaid

Prifysgol Corc

Ysgol Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol UCC sy’n arwain LIVE. Daw CPC ag arbenigedd mewn amrywiaeth o wyddorau amgylcheddol, ymchwil, sgiliau cyfathrebu gwyddoniaeth, profiad ymgysylltu â'r cyhoedd  i'r prosiect. Mae gan y Brifysgol bresenoldeb cryf eisoes ar Benrhyn Iveragh ac maent yn gobeithio ehangu ar hyn drwy raglenni amgylcheddol hirdymor. Nhw  hefyd sy’n goruchwylio'r gwaith o reoli’r project ac adrodd i'r corff ariannu.

Dr Pat Meere

Pat yw Pennaeth yr adran Ddaeareg yn UCC a chyd-arweinydd y prosiect. Mae ganddo ddiddordeb angerddol mewn daeareg strwythurol ac mewn ymgysylltu â'r cyhoedd i rannu ei gariad at bob agwedd o ddaeareg. Mae wedi astudio daeareg y Skelligs a nodweddion pwysig eraill tirwedd Iveragh o'r blaen.

Fidelma%20photo_edited.jpg

Dr Fidelma Butler

Mae Fidelma yn uwch ddarlithydd mewn ecoleg yn UCC ac yn gyd-arweinydd y prosiect. Mae ei gwaith yn cynnwys amrywiaeth o bynciau ecolegol, boed yn nodweddion pridd  neu cylch bywyd ac ymddygiad ystlumod.  O fewn LIVE, mae'n arwain y pecyn gwaith ‘Casglu Gwybodaeth’ (mae mwy am y Casglwyr Gwybodaeth isod).

Lucy Taylor

Lucy yw rheolwr prosiect LIVE. Yn Iwerddon mae hi’n gweithio a hi sy’n gweinyddu’r project ac yn cadw golwg dros y gweithgareddau yn y ddau benrhyn. 

Profiles bw3.jpg

Orla Breslin

Orla sy’n cyd-lynu’r gwaith yn lleol yn Iveragh. Cefndir mewn celf, crefftau a ‘dyniaethau digidol’  sydd ganddi hi. Mae Orla yn canolbwyntio ar ddatblygu mentrau cymunedol a gwneud yn siwr eu bod yn gweithio’n hwylus, ac mae hi hefyd yn sicrhau bod pob mathau o fudd-ddeiliaid yn Kerry yn cael eu cynnwys yn y gwaith hwn. . 

Profiles bw8.jpg

Clodagh Cahill

Mae Clodagh, sy’n gweithio ym maes marchnata, wedi dychwelyd i Ynys Valentia yn ddiweddar ar ôl treulio amser yn gweithio ac yn teithio dramor. Gyda chefndir ym maes cysylltiadau cyhoeddus ac ymgysylltu â’r gymuned, mae hi’n angerddol ynglÅ·n â thwristiaeth gynaliadwy a Phenrhyn Iveragh.  Hi fydd yn rheoli marchnata a chyfathrebu cyhoeddus prosiect LIVE yn Kerry.  

Clodagh pic_edited.jpg

Cyngor Sir Kerry

Swyddfa Dwristiaeth Cyngor Kerry yw’r pwynt cyswllt i LIVE yn y Sir. Drwy’r Swyddfa hon bydd y Cyngor yn gwneud y cysylltiad rhwng gwaith LIVE â pholisïau twristiaeth, cymunedol a chynaliadwyedd ehangach ar lefel sirol a chenedlaethol yn Iwerddon. Byddant hefyd yn gallu cyflwyno LIVE i’w rhwydweithiau twristiaeth niferus a thrwy hyn yn sicrhau fod rhwydwaith LIVE yn gynaliadwy y tu hwnt i oes y prosiect.

John Griffin.jpg

John Griffin

John yw Swyddog Twristiaeth Sir Kerry ac mae ganddo gyfoeth o brofiad o ddatblygu strategaethau twristiaeth llwyddiannus. Mae'n dod â'i fewnwelediadau i dueddiadau a pholisïau twristiaeth lleol a chenedlaethol i'r prosiect

Partneriaeth Datblygu De Kerry

Mae Partneriaeth Datblygu De Kerry yn grŵp datblygu cymunedol. Mae nhw’n gweithio mewn ffordd gydweithredol, o’r bôn i’r brig, er mwyn datblygu cefn gwlad. Fel rhan o broject LIVE, nhw sy’n sicrhau fod ‘na gysylltiadau cryf rhwng y project â’r cymunedau ac â mentrau datblygu cymunedol eraill ar Iveragh. Nhw sydd wedi cael y gwaith o greu adnoddau digidol, ac adnoddau sydd ddim yn ddigidol, ar gyfer y farchnad dwristaidd ond hefyd ar gyfer ysgolion. Bydd rhain yn waddol sylweddol i’r project.

SeanDebutlear.jpg

Seán de Buitlear

Seán yw Swyddog Prosiectau Ewropeaidd a Chyfathrebu, Partneriaeth Datblygu De Kerry. Ef yw prif gyswllt prosiect LIVE gyda rhwydwaith ehangach Partneriaeth Datblygu De Kerry. Mae’n dod â phrofiad ac arbennigedd i sicrhau y bydd LIVE a’r cymunedau lleol yn elwa o’r prosiect hwn. 

Prifysgol Bangor

Cafodd #Ecoamgueddfa Pen LlÅ·n, yr ecoamgueddfa gyntaf yng Nghymru, a hyd y gwyddom yr ecoamgueddfa ddigidol gyntaf yn y byd ei chreu drwy gydweithio agos rhwng Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd a’r partneriaid ym Mhen LlÅ·n.Mae'r tîm ym Mangor wedi bod yn ganolog i’r broses o ddatblygu'r prosiect LIVE ers y dechrau. Nhw sy’n gyfrifol am sicrhau fod LIVE yn gwreiddio egwyddorion cynaliadwyedd (y themau sy’n croesgyffwrdd) drwy holl elfennau’r gwaith o’r dechrau er mwyn sicrhau bod LIVE yn cyfrannu at economi werdd, lân a llewyrchus drwy barchu pobl a'u diwylliannau. Nhw hefyd sy’n gyfrifol am farchnata'r #Ecoamgueddfa ac am ddatblygu strategaeth gyfathrebu'r prosiect. Bellach mae LIVE wedi canfod cartref newydd yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol.

Profiles bw10.jpg

Dr Einir Young 

Mae Einir yn angerddol am gynaliadwyedd a bydd yn arwain y gwaith trawsbynciol o ymgorffori egwyddorion cynaliadwy ar draws pob agwedd o’r project. Mae cydweithredu, integreiddio a chynnwys yn hanfodol i sicrhau bod cydnabyddiaeth eang fod Pen LlÅ·n ac Iveragh yn gartref yn y lle cyntaf, yn ogystal â bod yn gyrchfan i ymwelwyr.

Gwenan Griffith.jpeg

Gwenan Griffith

Gwenan yw'r Swyddog Cymunedau Ddigidol LIVE. Mae Gwenan yn arbenigo  mewn celfyddyd gain, datblygu cymunedol a chynhwysiant digidol a hi sy’n arwain y gwaith o gyfarthrebu ac ymestyn allan i’r gwahanol gynulleidfaoedd. Hi sydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu brand LIVE a datblygu’r gallu i farchnata’r #Ecoamgueddfa ym Mhen LlÅ·n. Fe fydd hi’n gweithio'n agos gyda'r phartneriaid yr #Ecoamgueddfa a'r busnesau cyfagos i hyrwyddo marchnata cydweithredol ac fe fydd yn cynnig sesiynnau hyfforddiant marchnata digidol i bartneriaid y prosiect.

Dr Kate Waddington Mae Kate yn arbenigo mewn archaeoleg aneddiadau diweddarach yr Oes Efydd a’r Oes Haearn yng ngogledd orllewin Cymru ac mae’n Uwch Ddarlithydd mewn Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi'n gweithio'n agos gyda thîm LIVE a phartneriaid yr Ecoamgueddfa er mwyn darparu rhaglen ymgysylltu â'r gymuned. Mae hi’n hwyluso cyfres o arddangosfeydd, digwyddiadau a theithiau rhithiol o archeoleg gynhanesyddol Pen LlÅ·n, sy’n cynnwys gwaith ymchwil diweddar gyda’r Athro Raimund Karl a Katharina Möller ar gylchfyr ddwbl Meillionydd ger Rhiw.

Kate and co at Porth y Swnt Tre'r Ceiri launch_edited.jpg

Katharina Möller  

Mae Katharina yn archeolegydd sy’n arbenigo yn archaeoleg yr Oes Haearn a chyfranogiad y cyhoedd. Yn wreiddiol o’r Almaen, daeth i Fangor yn 2013 lle bu’n ymwneud ag ysgol faes archaeoleg y brifysgol, yn y cylch amgaeedig dwbl o’r Oes Efydd/Haearn yn Meillionydd yn LlÅ·n. Bydd yn datblygu adnoddau a gweithgareddau i hyrwyddo treftadaeth archeolegol LlÅ·n ar gyfer LIVE. 

Pic bio Katharina_edited.jpg

Cyngor Gwynedd

Mae Adran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd yn hwyluso  gwaith partneriaeth ar raddfa tirwedd ym Mhen LlÅ·n gan ddatblygu a gweithredu prosiectau sydd yn dod a buddion amgylcheddol, cymunedol ac economaidd i’r ardal.

Profiles bw9.jpg

Arwel Jones 

Arwel sy’n cydlynu prosiect LIVE yn LlÅ·n. Bydd yn  gweithio gyda phartneriaid,  budd ddeiliaid a chymunedau i  weithredu allbynnau prosiect LIVE. Bydd yn sicrhau bod yr ardal yn elwa i’r eithaf o’r prosiect, gan ddatblygu a rhannu ymarfer da fydd yn cyfrannu i ddiogelu dyfodol ffyniannus i’r ardal a’i thrigolion.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Sefydliad elusennol gydag aelodau yng Nghymru a Lloegr yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol am gadwraeth treftadol. Mae gan gangen Eryri a LlÅ·n dros ddegawd o brofiad o weithredu prosiectau cydweithredol sy'n canolbwyntio ar gadwraeth a phrofiad ymwelwyr. Maent wedi bod yn bartneriaid craidd yr #Ecoamgueddfa ers ei sefydlu yn 2014, ac mae dau o’r saith safle treftadaeth yn eiddo iddyn nhw. O fewn LIVE, nhw fydd yn gyfrifol am arwain a chyd-ddatblygu'r cynnyrch addysgol.

Profiles bw11.jpg

Laura Hughes

Laura Hughes yw Rheolwr Gweithrediadau a Phrofiad Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Eryri a LlÅ·n. Mae ei chefndir hi ym maes ecoleg, ond erbyn hyn mae’n canolbwyntio ar redeg gwaith amrywiol yn ymwneud ag ymwelwyr yn cynnwys y llefydd mynediad a’r meysydd parcio prysur ar hyd yr arfordir a’r cefn gwlad, y canolfan ymwelwyr newydd, yr adeiladau a’r  gerddi hanesyddol.

Profiles bw12.jpg

Robert Parkinson

Robert Parkinson yw rheolwr Rhaglennu a Phartneriaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llyn LlÅ·n. Mae ganddo radd  mewn daearyddiaeth ffisegol a phrofiad fel athro cynradd ac mae’n arbenigo mewn datblygu ffyrdd o roi cyfle addysgol yn yr awyr agored gydag ysgolion lleol. Fel rhan o LIVE bydd yn creu mwy o gyfleoedd i ysgolion, ymwelwyr, grwpiau lleol a gwirfoddolwyr i brofi a dysgu mwy am y byd naturiol, hanes a threftadaeth LlÅ·n.

Casglwyr Gwybodaeth

Yn ystod y prosiect LIVE, bydd tîm o ddaearegwyr, ecolegwyr a chyfathrebwyr gwyddoniaeth yn ymuno â'r tîm i ganolbwyntio ar agweddau penodol ar amgylcheddau naturiol penrhyn LlÅ·n ac Iveragh. Penderfynir ar ganolbwynt eu gwaith mewn ymgynghoriad ag aelodau o’r gymuned. Bydd hyn yn sail i brif allbynnau'r prosiect LIVE, drwy ddatblygu adnoddau ar gyfer twristiaeth ac addysg a fydd yn ennyn diddordeb cymunedau lleol ac ymwelwyr ag agweddau treftadol naturiol gyfoethog.

Profiles bw4.jpg

Anna Collyer 

Astudiodd Anna Wyddorau Daear yng Ngholeg y Drindod Dulyn ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn daeareg ac astudiaethau paleoamgylcheddol. Fel rhan o brosiect LIVE, mae hi'n gweithio ar Ynys Valentia lle mae'n defnyddio daeareg a geomorffoleg i ail-greu amgylchedd a thirweddau'r gorffennol o'r Cyfnod Defonaidd bron i 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl i'r Oes Iâ Olaf.

Profiles bw6.jpg

Fiach Byrne 

Mae gan Fiach radd mewn Sŵoleg o Brifysgol Corc. Mae wedi bod yn ddigon ffodus i astudio rhywogaethau bywyd gwyllt yn Iwerddon a thramor. Fel rhan o brosiect LIVE, bydd yn astudio ymddygiad chwilota'r gaeaf y Frân Goesgoch, aelod o deulu'r frân, ac yn modelu eu dosbarthiad yn Iveragh.

Soli Levi 

Mae Soli yn arbenigo mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol Cyfranogol Cyhoeddus (PPGIS), gan greu mapiau o ganfyddiadau a phrofiadau pobl ar draws tirweddau. Mae Soli yn wreiddiol o Wlad Groeg ond yn byw yng Nghorc ers tair blynedd. Mae hi'n caru ieithoedd, deifio SCUBA, ysgrifennu barddoniaeth, a phopeth yn ymwneud â natur.

Profiles%20bw2_edited.jpg

Ben Porter 

Mae Ben yn ecolegydd, ffotograffydd bywyd gwyllt ac ymchwilydd gwyddonol o Ynys Enlli, Pen LlÅ·n. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn bywyd gwyllt - adar yn benodol, a phrosiectau sy'n ceisio adfer a gwarchod ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr.

Profiles bw7.jpg
Profiles bw5.jpg

Linda Lyne 

Magwyd Linda ger Parc Cenedlaethol Killarney a'r Cwm Du (Black Valley). Mae ganddi gysylltiad cryf â natur erioed. Ysbrydolodd Attenborough ei hanturiaethau bywyd gwyllt o Antarctica i’r Galapagos a thu hwnt cyn iddi ennill gradd Sŵoleg. Mae Linda yn ymchwilio yr unig ymlusgiad brodorol i’r Iwerddon, sef y madfall gyffredin.

Aoibheann at rock art June 2021_edited.jpg

Aoibheann Lambe

Mae gan Aoibheann, sy’n archaeolegydd, ddiddordeb arbennig yn nhreftadaeth ddaearegol Iveragh – yn enwedig celfyddyd creigiau’r cyfnod megalithig a’r mwyngloddiau copr cynhanesyddol sy’n greiddiol i’r trawsnewid o Oes y Cerrig i’r Oesoedd Metel. Mae hi hefyd wrth ei bodd â madarch gwyllt a gwlithen Kerry.

Calum Sweeney

Mae gan Calum radd meistr mewn Tacsonomeg Planhigion a Chadwraeth o’r Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew, a sgiliau mewn botaneg maes o bob cwr o’r byd. Bydd yn casglu gwybodaeth am flodau ardal Iveragh – gan ganolbwyntio ar dymor y Gwanwyn a thymor yr Hydref – a sicrhau bod yr wybodaeth ar gael mewn ffordd hwyliog a diddorol i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Calum Sweeney.jpg

Christina Winkler

Er iddi gael ei magu ymhell oddi wrth yr arfordir yn yr Almaen, mae Christina wastad wedi’i chyfareddu gan ddolffiniaid a morfilod. Gan ei bod yn fiolegydd morol gyda diddordeb arbennig mewn cadwraeth ac yn frwd dros ffotograffiaeth bywyd gwyllt, bydd yn astudio mamaliaid y môr a megafawna morol eraill ar hyd arfordir penrhyn Iveragh. Ei nod ar gyfer Prosiect LIVE yw dod o hyd i ffyrdd o rannu’r wybodaeth honno gyda’r gymuned leol ac ymwelwyr.

Christina.jpg
Leonie.jpg

Leonie Schulz 

Mae Leonie yn Wyddonydd Cymdeithasol Amgylcheddol sydd â diddordebau ymchwil a hanes cyflogaeth ym maes twristiaeth gynaliadwy/gyfrifol. Mae wedi gweithio mewn gwahanol ardaloedd arfordirol a mynyddig fel ymchwilydd a thywysydd teithiau, gan ymchwilio i dechnegau monitro ymwelwyr newydd ac atebion rheoli twristiaeth cynaliadwy. Fel rhan o LIVE, bydd yn edrych ar effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol-ddiwylliannol twristiaeth ar y ddau benrhyn. 

Jane.jpg

Jane Sheenan

Mae Jane yn fiolegydd bywyd gwyllt a chanddi radd meistr mewn Bioleg Forol o Goleg y Brifysgol Cork ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn sglefrod môr. Fel rhan o LIVE, bydd yn ymchwilio i hanes biolegydd morol arloesol Valentia, Maude Delap, a’i chyfraniad i ymchwil ar sglefrod môr a phlancton yn y 19eg ganrif. Mae Jane hefyd yn gobeithio cynnal ei harolwg plancton ei hun ym Mhenrhyn Iveragh a dechrau datblygu set ddata tymor hir o blancton a fydd yn ein helpu i ddeall ein hecosystemau morol yn well.

Profiles bw1-2.jpg

Jonty Storey

Mae Jonty'n ddarlunydd, dylunydd ac yn ffotograffydd sydd wedi byw ym Mhen LlÅ·n ers ugain mlynedd.  Gan gymryd ysbrydoliaeth o'i amgylchedd, mae wedi helpu i greu'r brand newydd ar gyfer prosiect LIVE yn ogystal â darlunio a tynnu lluniau o'r lle mae'n ei alw'n adref.

bottom of page