top of page

Beth yw LIVE

Nod cyffredinol LIVE (Eco-amgueddfeydd Llŷn/ IVeragh) yw ei gwneud yn bosib i gymunedau arfordirol wneud y gorau o’u hetifeddiaeth naturiol a diwylliannol, er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig y tu allan i'r tymhorau sy’n boblogaidd gan ymwelwyr yn draddodiadol. 

 

Bydd LIVE yn defnyddio'r model ‘Ecoamgueddfa’ o farchnata a hyrwyddo cydweithredol er mwyn creu cyfres bwerus o adnoddau digidol ac adnoddau sydd ddim yn ddigidol ar gyfer eco-dwristiaeth a thwristiaeth addysgol. Bydd yr adnoddau yma yn seiliedig ar wybodaeth am amgylchedd lleol Pen Llŷn yng Ngwynedd a Phenrhyn Iveragh yn Kerry. 

 

Bydd y prosiect yn elwa ar lwyddiant yr #Ecoamgueddfa sydd wedi cael ei sefydlu ym Mhen Llŷn a bydd hefyd yn manteisio ar brofiad ac arbenigedd y rhwydwaith o sefydliadau cymunedol, partneriaid academaidd a llywodraethau lleol sydd ganddynt yn y ddwy wlad.

Cardigan-©-Illustration-2.jpg

Bydd LIVE yn mynd ati i gyd-ddatblygu cynnyrch o ansawdd uchel ar gyfer twristiaeth gynaliadwy drwy ddefnyddio gwybodaeth newydd a gwybodaeth sydd ar gael yn barod am amgylchedd naturiol a diwylliant y ddau le. Bydd y wybodaeth yma’n cael ei gasglu gan bobl a phlant yn y cymunedau ar y cyd â staff y partneriaid sy’n gysylltiedig â’r project. Byddwn yn canolbwyntio ar themâu sydd o ddiddordeb i bobl leol ac ymwelwyr ac yn gofyn iddyn nhw ein helpu i adnabod y bylchau yn y wybodaeth sydd ar gael am yr amgylchedd ar hyn o bryd.

 

Mae’n bosib y bydd y gwaith gaiff ei gynhyrchu yn rhoi syniadau ar gyfer cynnig profiadau amgylcheddol a diwylliannol newydd neu well i dwristiaid a phobl leol; yn rhoi cyfle i ‘wyddonwyr y bobol’ rannu eu gwaith, yn adnabod gweithgareddau gwylio natur gwahanol a theithiau gwahanol yn canolbwyntio ar amrywiol agweddau sydd o ddiddordeb amgylcheddol. Caiff y rhain i gyd eu gweu at ei gilydd dan un brand a fydd yn rhoi hunaniaeth gref i bob rhanbarth. Byddant yn cael eu pecynnu i gyfres o adnoddau digidol a di-ddigidol deniadol, hawdd cael atyn nhw.

 

Mae LIVE wedi mabwysiadu’r model ‘Ecoamgueddfa’ o farchnata a hyrwyddo cydweithredol er mwyn creu ‘brand’ ar gyfer nodweddion naturiol y ddau le. Bydd y bartneriaeth hefyd yn trefnu gweithdai a rhaglenni ar gyfer ‘llysgenhadon’ (pobl sy’n ‘gwybod eu stwff’ am bopeth lleol). Y bwriad yw ysbrydoli pobl leol, pwy bynnag y bônt, i gredu fod y strategaeth marchnata digidol yn perthyn iddyn nhw a’i gwneud yn bosib iddyn nhw gael ddatblygu perthynas ddyfnach gyda’u hamgylchedd a'u diwylliant lleol – a chael budd economaidd o wneud hynny. 

chough-icon.png

Er bod y model Ecoamgueddfa yn newydd yn Iveragh, mae'n cysylltu â llawer o fentrau cymunedol sy'n bodoli eisoes ac yn adeiladu arnynt.  Mae#Ecoamgueddfa Pen Llŷn yn bodoli’n barod, ond bydd gwaith LIVE cynnig ffocws wahanol ar dreftadaeth naturiol i ychwanegu gwerth at yr arlwy ddiwylliannol sy’n bodoli’n barod. 

 

Bydd y gwaith yn batrwm  ar gyfer datblygiadau tebyg mewn cymunedau arfordirol yn Iwerddon a Chymru thu hwnt. Drwy fabwysiadu'r cysyniad Ecoamgueddfa, mae LIVE yn sefyll ochr yn ochr â chymuned ryngwladol o brosiectau twristiaeth amrywiol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu syniadau o’r bôn i’r brig - mentrau adfywio sy’n cael eu harwain gan y gymuned gyda’r bwriad o ddathlu hunaniaeth gref ac sy’n canolbwyntio ar ddangos bod cyrchfan i ymwelwyr hefyd yn gartref. Bydd hyn yn eu galluogi i groesawu twristiaid sydd â diddordeb mewn profidadau tu hwnt i’r ‘bwced a’r rhaw’ arferol ac fydd yn dymuno aros am enyd ac yn gwario'n lleol yn hytrach na gwibio trwodd.

Mae LIVE wedi cael ei ariannu'n rhannol gan raglen gydweithredu Iwerddon Cymru a bydd yn rhedeg am 3 blynedd (2020-2023). Y ffordd gynhwysol a chydweithredol o weithio sy'n manteisio ar asedau presennol ac yn gweithio tuag at amgylchedd iach a chymunedau ffyniannus ym mhob rhanbarth fydd gwaddol y project. Bydd yn caniatáu i bob cymuned ddatblygu ei hunaniaeth unigryw ei hun ac ymestyn y tymor ymwelwyr heb gyfaddawdu ar gynaliadwyedd amgylcheddol na lles trigolion.

kayaka-icon.png

#Ecoamgueddfa

Rhannwch eich antur, rhannwch eich stori

Tagiwch ni yn eich siwrna o gwmpas Pen Llŷn ac Iveragh

bottom of page