Ymunwch â phrosiect LIVE a gwesteion arbennig i ddathlu sut y gall cymunedau ymgysylltu gyda’u treftadaeth naturiol a diwylliannol i hyrwyddo model mwy adfywiol o dwristiaeth.
Bydd y rhaglen yn cynnwys sgyrsiau a thrafodaethau panel ar
• Allbynnau prosiect LIVE a sut y gellir eu defnyddio gan gymunedau yn y dyfodol
• Mentrau a thueddiadau mewn twristiaeth cynaliadwy ac adfywiol
• Defnyddio bioamrywiaeth i hyrwyddo ardal
• Twristiaeth ddiwylliannol, treftadol a ieithyddol
• Cyd-hyrwyddo, rhannu gwybodaeth a thwristiaeth gymunedol
​
Bydd amrywiaeth o siaradwyr yn cynnwys arbenigwyr lleol a rhanbarthol o Iwerddon a Chymru. Bydd y rhaglen yn rhoi digon o amser i sgwrsio’ anffurfiol a rhwydweithio yn ystod y dydd . Bydd lluniaeth a chinio ysgafn ar gael.
Bydd rhaglen lawn i ddilyn yn fuan.