top of page

#Ecoamgueddfa 
Ein Stori

Mae'r bennod hon The Routledge Companion to Intangible Cultural Heritage yn disgrifio gwreiddiau #Ecoamgueddfa LlÅ·n, yr ecoamgueddfa gyntaf yng Nghymru ac hyd y gwyddom un o'r rhai cyntaf yn y byd i fod yn gwbl ddigidol – mewn geiriau eraill, ecoamgueddfa sy'n defnyddio llwyfannau digidol i reoli a hyrwyddo ei hun a sicrhau bod ei adnoddau ar gael i gynulleidfa fyd-eang.

 

Mae'r bennod yn disgrifio sut mae'r bobl sy'n byw mewn cornel fach o Gymru ar hyn o bryd wedi dechrau gwireddu eu huchelgais o gadw, hyrwyddo a dathlu eu hiaith, diwylliant a threftadaeth a thrwy wneud hynny gydnabod realiti economaidd a chymdeithasol a heriau bywyd cyfoes 'ar y dibyn'.

 

Mae yma fyfyrdod ar sut mae'r cysyniad o ‘ecoamgueddfa’ wedi'i addasu i'r lleoliad hwn, sut mae wedi esblygu ac yn parhau i wneud hynny trwy gyflwyno'r bobl dan sylw i’r darllennyd a nodi’r bartneriaeth sydd wedi datblygu.

 

Mae pobl LlÅ·n yn rhannu gweledigaeth a breuddwyd o ddefnyddio eu hadnoddau naturiol, y cyfalaf naturiol a'r cyfalaf dynol i sicrhau dyfodol economaidd gwell wrth ddathlu'r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol sydd yn annwyl iddynt.

 

Nid yw'r weledigaeth a ddisgrifir yn ecsgliwsif, gellir ei chyfieithu a'i haddasu'n hawdd i leoliadau a sefyllfaoedd eraill. Lle bynnag y mae pobl yn gwerthfawrogi eu tirwedd, eu hiaith, eu diwylliant a'u treftadaeth, mae potensial i ecoamgueddfa lleoliad-benodol ddod i'r amlwg a ffynnu.

 

Mae #Ecoamgueddfa LlÅ·n yn unigryw am ei bod wedi ei lleoli yn yr unig le ar y Ddaear lle mai'r Gymraeg yw iaith mwyafrif y boblogaeth leol a hi yw'r prif ased diwylliannol anniriaethol. Mae’r bennod yn amlygu bod mabwysiadu dull digidol yn ei gwneud hi'n bosibl dod â Chymraeg, Cymreictod a'r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaetho gysylltiedig i gynulleidfa fyd-eang.

 

Bywyd byr sydd i lyfrau a'r penodau ynddynt. Cyn gynted â bo’r geiriau yn cael eu hysgrifennu, maen nhw wedi dyddio. Nid rhywbeth statig yw’r #Ecoamgueddfa; mae pethau'n newid yn ddyddiol. Cyfrinach llwyddiant yw ystwythder, hyblygrwydd a'r gallu i addasu a newid yn ôl y galw ynghyd ag ymrwymiad llwyr i'r cysyniad o gyd-weithio, cyd-ddatblygu a chyd-hyrwyddo.

bottom of page