top of page

Taith rhithiol Tre'r Ceiri

Mae Tre’r Ceiri yn fryngaer Frythonaidd-Rufeinig drawiadol o’r Oes Haearn. Mae wedi ei lleoli ar ben y mynydd mwyaf dwyreiniol o dri copa’r Eifl ger Llanaelhaearn. Mae’n heneb warchodedig ac mae ei chyflwr gyda’r gorau ym Mhrydain. Safleoedd ymgasglu oedd bryngaerau: roeddent yn darparu llety, yn le i storio bwyd ac i gynnal defodau. Roeddent yn ganolbwynt i gymunedau a oedd yn byw ar y tir hwn yn ystod mileniwm cyntaf CC a hanner cyntaf mileniwm cyntaf OC. Mae’r fryngaer wedi’i hamgáu gan wal gerrig drawiadol, mae iddi ddwy fynedfa a thu mewn i’r waliau mae hyd at 150 o dai crynion ac adeileddau hirsgwar. Roedd trigolion y fryngaer yn parchu carnedd gladdu gynharach o’r Oes Efydd, sydd ar gopa’r bryn.

 

Ymgollwch mewn taith rithiol o amgylch yr heneb a’i chyffiniau.  Gellir newid y testun a’r sain i’r Gymraeg neu’r Saesneg drwy glicio ar yr eiconau perthnasol.

 

Mae taith rhithiol Tre'r Ceiri hefyd i'w gweld yng nghanolfan Porth y Swnt, Aberdaron. Un o chwe safle sy'n ffurfio Ecoamgueddfa LlÅ·n.

​

  • Lluniau a’r daith rithiol gan Bernd Kronmueller

  • Crynodebau testun o’r teithiau gan Dr Kate Waddington, Prifysgol Bangor

  • Ffilm gan Cai Erith, Forrest Lancaster a Rhys Mwyn

Tre'r Ceiri  Virtual Tour launch - Porth y Swnt. png
Virtul Tour
bottom of page