top of page

Morfil pigfain - Droimeiteach beag - Balaenoptera acutorostrata 

Morfilod pigfain yw’r rhywogaethau morfil lleiaf yn nyfroedd Iwerddon, gan dyfu rhwng 8.5m a 10m o hyd. Mae ganddyn nhw gefn du tywyll a gwaelod gwyn, gyda phen pigfain. Tua dau draean y ffordd i lawr eu cefn, mae ganddyn nhw esgyll dorsal siâp cryman. Ond y nodwedd fwyaf amlwg yw'r bandiau gwyn o gwmpas eu hesgyll pectorol, y gellir eu gweld drwy’r dŵr pan geir cyfle i edrych yn agosach. Er mai’n anaml y’u gwelir yn chwistrellu dŵr, gellir arogli eu hanadl weithiau, sy’n eithaf drewllyd! 


Morfil pigfain, ddim yn chwistrellu dŵr, ond bandiau gwyn gweladwy ar esgyll pectorol – Christina Winkler 
Ecoleg, dynameg gymdeithasol a nodweddion tymhorol   

Morfilod walbon yw morfilod pigfain. Yn hytrach na dannedd, mae ganddyn nhw blatiau walbon y maen nhw’n eu defnyddio i hidlo ysglyfaeth allan o’r dŵr. Mae morfilod pigfain yn nyfroedd Iwerddon yn bwyta llymrïaid, corbenwaig a phenwaig, ond hefyd cril, brwyniaid bach, mecryll a phenfras y tu allan i ddyfroedd Iwerddon. Mae morfilod pigfain yn cael eu gweld ar eu pen eu hunain gan amlaf, ond weithiau gallan nhw ymddangos mewn parau neu grwpiau bach. Yn yr un modd â morfilod walbon eraill, mae morfilod pigfain yn mudo. Yn wahanol i rai rhywogaethau teulu’r morfil, fodd bynnag, nid yw’r mudo mor hawdd ei ragweld. Dydyn ni ddim yn gwybod yn union ble maen nhw’n mynd i fwydo yn yr haf na magu yn y gaeaf. Maen nhw i’w gweld yn nyfroedd Iwerddon o’r gwanwyn i’r gaeaf, gyda’r dwyseddau uchaf yn Ne Iwerddon rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf. Gall morfilod pigfain blymio am dros 15 munud. Yn union cyn iddyn nhw blymio am gyfnod hir, byddan nhw’n gwneud siâp bwa â’u cefnau'n wrth ddod o’r dŵr. 


Cefn tywyll ac asgell ddorsal siâp cryman y morfil pigfain– Christina Winkler 
Morfilod pigfain ar hyd arfordir Iveragh

Oddi ar arfordir Iveragh, mae morfilod pigfain wedi cael eu cofnodi mewn dyfnder o tua 70m ac ymhellach yn y môr, gan symud yn nes at y lan yn y gwanwyn. Mae Bray Head, yn ogystal â Bae Sant Finan, Bae Derrynane ac Afon Kenmare, yn llefydd da i weld morfilod pigfain, yn ogystal ag o gwmpas Lemon Rock pan fyddwch allan ar gwch. Mae eu henw Gwyddelig (Droimeiteach beag) yn cyfieithu’n dda iawn o ran beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn chwilio am yr anifeiliaid hyn, sef drymlin bach.


 

bottom of page