top of page
inland-view.jpg

Cofio Cyn Cychwyn

Rydyn ni eisiau rhannu ein cornel hyfryd o’r byd â chi a’r cenedlaethau i ddod. Oherwydd hyn, rydym yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy a chyfrifol sy’n helpu i adfywio’r fro, ac rydym yn gobeithio y byddwch chithau’n gwneud hynny hefyd. Cymerwch funud i ddarllen ‘Cofio Cyn Cychwyn’  er mwyn i chi allu chwarae eich rhan.
Things to know before you go_CY_CY.png
Gallwch lawrlwytho y canllaw uchod fel PDF, rydym yn hapus i chi ei rannu gyda'ch teulu, ffrindiau, ymwelwyr lleol a thwristiaid.

Os hoffech gael y callaw hwn mewn fformat gwahanol, ar gyfer y we neu brint, cysylltwch â ni, gallwch ddefnyddio ein ffurflen gyswllt, neu anfonwch e-bost atom - live@ucc.ie

Mae'r Prosiect LIVE yn aelod o Leave No Trace, rhaglen awyr agored foesegol a gynlluniwyd i hyrwyddo ac ysbrydoli defnydd cyfrifol o'r awyr agored trwy addysg, ymchwil a phartneriaethau. Mae'r awyr agored yn  Iwerddon yn cael ei reoli gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau. Mae llawer ohonynt yn ennill eu bywoliaeth drwy'r sector yma. Mae cyfrifoldeb arnom ni fel unigolion i barchu gweithgareddau a diddordebau ein gilydd yn yr awyr agored. Dysgwch fwy am eu gwaith yma leavenotraceireland.org.

Leave No Trace Ireland Proud Member Stic

Mae’r rhaglen Clean Coasts yn gweithio gyda chymunedau i helpu i warchod a gofalu am ddyfrffyrdd, arfordir, moroedd, cefnforoedd a bywyd morol Iwerddon. Bob blwyddyn maent yn trefnu cannoedd o ymgyrchoedd glanhau traethau, ysgogi miloedd o wirfoddolwyr, a chael gwared ar lawer iawn o sbwriel morol o’n hardaloedd arfordirol. Maent wedi cynhyrchu canllawiau gwych i fwynhau, dathlu a diogelu ein traethau a’n harfordiroedd hardd.

clean-coasts-logo.jpg
bottom of page