
Adnoddau Addysgol
Diwrnod Rhyngwladol y Gylfinir
Mae Diwrnod Rhynglwadol y Gylfinir yn fenter ar lawr gwlad sy'n cael ei gefnogi gan sefydliadau amgylcheddol mawr ar draws y byd.
​
Datblygwyd yr adnoddau hyn ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Gylfinir, maent hefyd rhan ehangach o raglen addysg amgylcheddol cynllun LIVE.

Y Fadfall Gyffredin
Rydyn ni wedi llunio ystod o adnoddau i chi ddysgu mwy am fadfallod: sut maent yn edrych; awgrymiadau ar ble y gallech eu gweld; yr addasiadau sy'n rhaid iddynt wneud er mwyn goroesi mewn tywydd oer. Mae yna daflenni gweithgaredd, fideo addysgol a llawer mwy…. (Cynnwys Saesneg yn unig)

Darganfod Maude Delap
Roedd Maude Jane Delap (1866 - 1953) yn fiolegydd morol hunanddysgedig a fu'n byw ar Ynys Valentia am y rhan fwyaf o'i hoes. Roedd yr ymchwil a wnaeth ar blancton a slefrod môr yn torri tir newydd ar y pryd ac wedi helpu i adeiladu llawer o’n gwybodaeth am gylchredau bywyd slefrod môr.
