
Cynaliadwyedd

LIVE a'r Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae cydweithrediad Ecoamgueddfeydd Llŷn Iveragh (LIVE)yn ceisio sefydlu ecoamgueddfa (amgueddfa heb waliau) mewn dau leoliad, un ym Mhen Llŷn yng ngogledd orllewin Cymru a’r llall yn Sir Kerry, Iwerddon. Mae'r mudiad Ecoamgueddfa yn dod o Ewrop ac mae dros 300 o ohonynt ledled y byd. Nod pob un yw cefnogi cymuned i reoli ei threftadaeth ei hun, gan ei helpu i gadw ei hadnoddau a’i thraddodiadau tra'n ffynnu'n economaidd. Bydd twristiaid ac aelodau o’r gymuned fel ei gilydd yn cael eu hannog i ddeall effaith hamdden a theithio a bod Pen Llŷn ac Iveragh yn gartrefi yn ogystal â chyrchfannau.

LIVE a PHRIF egwyddor datblygu cynaliadwy – rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn rhoi sylw i anghenion ein pobl a’n cymunedau mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’n plant a’n hwyrion fyw’n dda hefyd.
Mae diboblogaeth cefn gwlad a diffyg gwaith o safon yn her yng ngogledd orllewin Cymru a gorllewin Iwerddon. Bydd sefydlu ecoamgueddfa yn y ddau leoliad i ddathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol yn ymestyn y tymor twristiaeth, yn gwella bywoliaeth dinasyddion heddiw ac yn rhoi cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
LIVE yn rhoi sylw i BEDWAR piler cynaliadwyedd
Economi
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o ymestyn y tymor ymwelwyr y tu hwnt i’r wythnosau ‘prysuraf’ traddodiadol, gyda chynigion tymhorol wedi’u targedu wedi’u hanelu at ymwelwyr sydd eisiau cymryd eu hamser i fwynhau’r ardal leol. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo cynnyrch lleol, gwaith crefft lleol a gweithgareddau diwylliannol lleol sydd o fudd i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Amgylchedd
Mae’r dirwedd yn ased mawr yn y ddau leoliad. Byddwn yn adrodd hanes ein harferion rheoli tir da. Byddwn hefyd yn hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy i leihau’r defnydd o geir ac yn rhoi gwybodaeth sy’n benodol i leoliad am yr ecoleg er mwyn gwella dealltwriaeth leol ac ymwelwyr o bwysigrwydd gwarchod ein hamgylchedd.
Cymdeithas
Yn ogystal â swyddi a manteision diwylliannol, mae ein dull araf o ymdrin â thwristiaeth yn ceisio denu ymwelwyr sy’n dymuno cael gwrthgyferbyniad braf â’u bywyd bob dydd – cyfle i ymgysylltu â’r dirwedd, gyda chymunedau, gyda diwylliant – i ‘gysylltu’ – yn wahanol i dwristiaeth echdynnol, lle mae pobl yn heidio i rywle heb fawr o ymdeimlad o'r lle. Rydyn ni eisiau meithrin cydlyniant cymunedol a darparu amgylchedd croesawgar.
Diwylliant
Mae’r Gymraeg a’r Wyddeleg yn gryf yn y ddwy ardal. Bydd darparu gwaith, gan ddefnyddio iaith a threftadaeth fel Pwynt Gwerthu Unigryw i ddenu ymwelwyr amlwg yn cael effaith gadarnhaol gan gynyddu ymwybyddiaeth bod amrywiaeth dynol a bioamrywiaeth yr un mor bwysig.
PUM ffordd o weithio LIVE
Hirdymor
Y nod yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol dwy ardal ymylol yng Nghymru ac Iwerddon gan ddefnyddio’r cysyniad o ecoamgueddfa.
Atal
Drwy atal byddwn yn lleihau allfudo drwy gynyddu cyfleoedd cyflogaeth drwy gydol y flwyddyn i gadw pobl ifanc a denu’r rheini sydd wedi symud i ffwrdd yn ôl. Byddwn yn lleihau tagfeydd ar ffyrdd cul drwy hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy a gwrthdroi dirywiad diwylliannol drwy hyrwyddo iaith a threftadaeth fel asedau gwerthfawr.
Cydweithio
Dyma gydweithrediad rhwng dwy wlad, dwy Brifysgol, dau awdurdod lleol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Grŵp Cymuned yn Iwerddon, 13 cymuned, mwy na saith safle treftadaeth, busnesau, unigolion a’r rhwydwaith ecoamgueddfa byd-eang.
Integreiddio
Mae LIVE yn integreiddio’n dda yng nghynlluniau datblygu lleol yr awdurdodau lleol sy’n bartneriaid ac yn cyfrannu at nodau llesiant cenedlaethol a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Cynnwys
Mae LIVE yn fenter a ddatblygwyd ar y cyd rhwng sefydliadau academaidd, cynrychiolwyr cymunedol a safleoedd treftadaeth ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Rydyn ni’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu holl agweddau yn ein gwaith.
LIVE a SAITH Nod Llesiant Llywodraeth Cymru
Cymru / Iwerddon
Lewyrchus
Ein nod yw annog gwaith medrus a gweddus drwy gydol y flwyddyn, gan gyfrannu at gymdeithas arloesol a chynhyrchiol sy’n parchu ei hamgylchedd a’i thirwedd. Bydd cynlluniau arfaethedig fel llety cynaliadwy a thrafnidiaeth yn hyrwyddo economi carbon isel.
Cymru / Iwerddon
Cydnerth
Mae’r amgylchedd yn sail i weledigaeth a gwaith LIVE. Mae canfod yr addasiadau angenrheidiol i’r newid yn yr hinsawdd a heriau eraill yn weithgareddau craidd.
Cymru / Iwerddon
Iachach
Mae iechyd yn gysylltiedig â ffyniant a llesiant ac mae’n cael ei wella drwy fynediad i’r awyr agored. Yn ogystal â darparu cyfleoedd i ymwelwyr fod â chysylltiadau iachach, mae mentrau ‘presgripsiynu cymdeithasol’ yn cael eu dilyn mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymarferwyr Cyffredinol lleol.
Cymru / Iwerddon
fwy Cyfartal
Mae tegwch cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol wrth galon y prosiect hwn, gyda mynediad at grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli hefyd yn nodwedd o’n gwaith.
Cymru / Iwerddon
Cymunedau Cydlynus
Mae cymunedau cryf yn nodwedd o Ben Llŷn a Phenrhyn Iveragh, ond maen nhw’n cael eu herydu gan allfudo. Rydyn ni’n cydweithio i ddarparu opsiynau i liniaru yn erbyn y duedd hon.
Cymru / Iwerddon
â Diwylliant lle mae'r iaith yn ffynnu
Mae diwylliant ac ieithoedd Cymru ac Iwerddon yn ganolog i LIVE; y Pwynt Gwerthu Unigryw sy’n llywio ein gwaith. Ein nod yw cyfrannu at gynyddu amlygrwydd a’r defnydd o ieithoedd ar wahân i Saesneg mewn deunydd hyrwyddo sy’n dangos sut gall iaith a diwylliant fod yn gynhwysol ac yn cofleidio ac yn elfen allweddol o wella profiad ymwelwyr.
Cymru / Iwerddon
sy'n Gyfrifol yn fyd-eang
Mae LIVE yn brosiect rhyngwladol, sy’n rhan o rwydwaith byd-eang o ecoamgueddfeydd. Mae’r egwyddorion arferion da sy’n dod i’r amlwg yn cael eu lledaenu’n eang yng Nghymru, gwledydd eraill y DU, Iwerddon a thu hwnt.

LIVE A Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig
Yn ogystal â’r uchod, mae LIVE yn cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig..
Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig wedi’u cynllunio i sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb. Maen nhw’n mynd i’r afael â heriau byd-eang, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â thlodi, anghydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd, heddwch a chyfiawnder. Mae’r 17 Nod yn gydgysylltiedig ac yn cael eu mapio i gyd-fynd â Nodau Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig y flwyddyn 2020 yn ddechrau’r Degawd o Weithredu, sy’n galw am gyflymu atebion cynaliadwy i holl heriau mwyaf y byd.
LIVE a COP 26 & 27
Yn ystod COP 26, lansiwyd Datganiad Glasgow ar Weithredu o blaid yr Hinsawdd ym maes Twristiaeth. Mae LIVE yn cefnogi hyn yn llwyr ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall effaith hamdden a theithio ar Newid yn yr Hinsawdd.
Yn ystod COP 27 yn yr Aifft daeth UNWTO â rhanddeiliaid blaenllaw yn y sector ynghyd i rannu ffyrdd ymarferol o gyflymu'r newid tuag at bod yn fwy cynaliadwyedd a chyrraedd Net-Zero. Y brif neges sy'n dod i'r amlwg o'r gynhadledd yw yr ymrwymiad ar draws y sector i gefnogi'r trawsnewidiad tuag at fodel twristiaeth mwy carbon-isel, cynaliadwy a gwydn.

