top of page

Morfilod, Dolffiniaid a Llamhidyddion... 

Christina Winkler

... neu yn syml – teulu’r morfil – yn famaliaid morol sydd wedi addasu i fywyd yn y dŵr yn unig. Yn wahanol i bysgod, nid oes ganddyn nhw dagellau, ond maen nhw’n gallu anadlu gydag ysgyfaint, fel ni. Dyna’r rheswm hefyd pam y gallwn eu gweld: oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw ddod at wyneb y dŵr i anadlu. A dyna lle mae gennym gyfle i gael profiadau anhygoel. Maen nhw’n rhoi genedigaeth yn ifanc ac yn magu’r rhai bach, ac maen nhw’n anifeiliaid gwaed cynnes, yn union fel mamaliaid y tir. Ond oherwydd eu bod yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau dan ddŵr, gallan nhw fod yn anodd iawn dod o hyd iddyn nhw.


Er mwyn symud ymlaen a byw yn yr amgylchedd morol, maen nhw wedi datblygu addasiadau unigryw dros filiynau o flynyddoedd. I symud eu hunain, mae eu cynffonau wedi troi’n llabedau pwerus. Ac i gyfeirio eu symudiadau, mae eu breichiau wedi troi’n esgyll pectoral, tra bo’u coesau ôl wedi lleihau bron yn gyfan gwbl. Er mwyn gwneud dod i’r wyneb a’r anadlu’n haws, mae eu ffroenau wedi symud i ben eu pennau ac maen nhw’n cael eu galw’n dyllau chwythu.


Addasiadau i anifail byw o dan y dŵr ar enghraifft o forfil cefngrwm – Christina Winkler 

Mae 25 rhywogaeth o deulu’r morfilod wedi’u cofnodi yn nyfroedd Iwerddon, ac mae llawer ohonyn nhw i’w gweld o gwmpas penrhyn Iveragh. Daeth astudiaeth yn 2015 i’r casgliad mai dolffiniaid cyffredin, dolffiniaid trwyn potel a morfilod pigfain yw’r morfilod a welir amlaf yn ne Kerry. Os byddwch yn lwcus, efallai y byddwch hefyd yn gweld dolffiniaid Risso, morfilod cefngrwm neu llamhidyddion yr harbwr llai o lawer. O’r 28 rhywogaeth a welir yn nyfroedd y DU, mae Penrhyn Llŷn yn rhannu ychydig o rywogaethau gydag Iveragh: Dolffiniaid Risso a’r dolffiniaid trwyn potel, llamhidyddion yr harbwr a morfilod pigfain. Ond gellir gweld morfilod peilot o bryd i’w gilydd hefyd. Gellir gweld y rhan fwyaf o rywogaethau teulu'r morfil o'r tir ac o’r dŵr. Fodd bynnag, wrth arsylwi o gwch, rhaid dilyn canllawiau penodol (dolen yma) i sicrhau diogelwch yr anifeiliaid a’r teithwyr.


Mysticetes ac Odontocetes
Gwahaniaethau rhwng odontocetes a mysticetes – (IWDG)

Dyma ddau air crand (gwyddonol) ar gyfer y ddau gategori o deulu'r morfil (sy’n cynnwys morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion). Mae’r ddau air yma’n disgrifio rhannau o anatomi’r anifeiliaid a sut maen nhw’n bwydo: 

Mysticetes, sef Morfilod Walbon

Odontocetes, sef Morfilod Daneddog 

  • Mae gan y rhain blatiau walbon ar yr ên uchaf yn unig, sydd wedi’u gwneud o geratin, fel ewinedd eich bysedd 

  • Mae ganddyn nhw ddannedd, sydd wedi’u gwneud o ddentin yn bennaf, fel eich dannedd chi 

  • Maen nhw'n defnyddio platiau walbon i hidlo llawer iawn o bysgod a chril allan o’r dŵr gydag un llowc

  • Maen nhw’n defnyddio dannedd i ddal pysgod, môr lewys neu fegafauna morol arall (ee morloi, pengwiniaid a morfilod eraill) 

  • Efallai bod ganddyn nhw bletiau gwddf, sy’n ehangu pan maen nhw’n cael eu llenwi â dŵr ac ysglyfaeth, ac yna’n cael cyfangu i wthio’r dŵr allan drwy’r platiau walbon  

  • Does ganddyn nhw byth bletiau gwddf, ond mae eu cegau’n aml yn ymestyn i bigau (fel yn y rhan fwyaf o rywogaethau dolffin)

  • Mae ganddyn nhw ddau dwll chwythu

  • Mae ganddyn nhw un twll chwythu

  • Maen nhw’n cynnwys yr anifeiliaid mwyaf ar y blaned, fel y morfilod glas a’r morfilod ysgall, y morfil cefngrwm mawreddog a’r morfil pigfain, sef y rhywogaeth leiaf o’r morfilod walbon y gellir dod ar eu traws ar Iveragh 

  • Maen cynnwys pob rhywogaeth o ddolffiniaid, orcas, morfilod gwyn, morfilod peilot a morfilod sberm. Weithiau, mae morfilod sydd â phigau yn cael eu hystyried fel grŵp cwbl ar wahân.

  • Dydyn nhw ddim yn creu synau ecoleoli, ond gallen nhw gynhyrchu synau gan ddefnyddio codenni aer wedi’u leinio ar hyd y gwddf i symud aer dros linynnau'r llais

  • Maen nhw’n defnyddio ecoleoliad ar gyfer mordwyo a dod o hyd i ysglyfaeth drwy organ o’r enw melon, sydd yn eu talcen


Morfil sy’n bwydo ar yr wyneb yn dangos pletiau gwddf a thyllau chwythu – C. Winkler 


 Dolffin llamhidydd cyffredin sy'n dangos pig main ac un twll chwythu - C. Winkler

Wyddoch chi...

...bod teulu’r morfil yn anadlyddion ymwybodol? Mae ein hanadlu ni’n atblyg a des dim angen i ni feddwl amdano - rydyn ni’n ei wneud yn ein cwsg hyd yn oed, ond mae’n rhaid i deulu’r morfil fod yn effro i anadlu. Ond sut maen nhw’n gwneud hynny? Un o’r tybiaethau mwyaf cyffredin yw mai dim ond hanner eu hymennydd sy’n cysgu ar y tro, tra bod yr hanner arall yn aros yn effro ac yn rheoli eu hanadl ac yn effro i berygl posibl. 


 

Deunydd darllen ychwanegol:   

Species - IWDG

Ultimate wildlife watching adventures in Llyn – Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Fluke Facts - IWDG

Commentaires


bottom of page