top of page

Dolffin cyffredin - Deilf choitean - Delphinus delphis   

Sut i’w adnabod

Mae’n debyg mai'r dolffin cyffredin yw un o’r dolffiniaid hawsaf i’w adnabod. Mae ganddo siâp corff main gyda phig cul. Gyda chefn llwyd tywyll ac ochr isaf golau, mae ochrau’r anifeiliaid wedi’u lliwio mewn patrwm ‘awrwydr’ amlwg, sy’n felyn/oren golau tuag at y pen ac yn llwyd tuag at y gynffon. Mae oedolion yn cyrraedd hyd corff o 1.50 i 2.70m yn unig. 


Dolffin cyffredin – sylwch ar y patrwm awrwydr fel nodwedd adnabod. Darperir gan y casglwr gwybodaeth Christina Winkler 

Ecoleg, dynameg gymdeithasol a nodweddion tymhorol   

Fel y mae eu henw’n nodi, dolffiniaid cyffredin yw’r rhywogaethau teulu’r morfil mwyaf toreithiog yn y byd ac mae i’w gweld mewn dyfroedd trofannol a chynnes Cefnfor yr Iwerydd, y Môr Tawel a Chefnfor India. Ar hyd arfordir Iwerddon, gellir eu gweld drwy gydol y flwyddyn, gan gyrraedd uchafbwynt ddiwedd yr haf.  


Maen nhw’n anifeiliaid cymdeithasol iawn, sydd i'w gweld yn aml mewn grwpiau (heidiau), sy’n gallu amrywio o ddim ond dau anifail i gannoedd o anifeiliaid. Mae’r heidiau anferth hyn yn aml yn dod at ei gilydd mewn ardaloedd lle mae llawer o ysglyfaeth i’w bwyta. Yn nyfroedd Iwerddon maen nhw’n bwydo ar bysgod pelagig (ar y môr), fel penwaig a marchfecryll, ond hefyd pysgod llusern a môr lewys. Os byddwch yn dod ar eu traws, fe’u gwelwch yn aml yn neidio allan o’r dŵr ac yn aml yn mynd at gychod i nofio wrth eu hochr. 


Dolffiniaid cyffredin ym Mae Kenmare – gyda Skellig Tours, gan Christina Winkler


Dolffiniaid cyffredin ar hyd arfordir Iveragh

Mae pentiroedd fel Bray Head ar Ynys Valentia neu Canglass Point, a mannau gwylio is hefyd, fel Bae St. Finian, yn fannau gwych i chwilio am ddolffiniaid cyffredin. Ym Mae Kenmare , Bae Derrynane ac o amgylch Ynysoedd Skellig maen nhw wedi cael eu gweld o gychod hefyd (ee gyda Skellig Tours a Skellig Coast Discovery). Fodd bynnag, yn ystod y degawd diwethaf gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion o ddolffiniaid yn cael eu golchi ar y lan yn farw neu’n fyw. Cofnodwyd achosion fel hyn ar draethau yn Waterville, Ballingskelligs, Cahersiveen a Kenmare.


 




bottom of page