Beth yw LIVE?
Mae LIVE yn gydweithrediad rhwng sefydliadau cymunedol, adrannau academaidd a llywodraethau lleol yng Nghymru ac Iwerddon. Nod LIVE yw galluogi cymunedau arfordirol i wneud y gorau o’u hasedau naturiol a diwylliannol, er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer datblygu twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig yn y cyfnodau tu allan i'r cyfnodau sy’n boblogaidd gan dwristiaid yn draddodiadol.
Bydd LIVE yn defnyddio'r model ‘Ecoamgueddfa’ o farchnata a hyrwyddo cydweithredol er mwyn creu cyfres bwerus o adnoddau digidol ac adnoddau sydd ddim yn ddigidol ar gyfer eco-dwristiaeth a thwristiaeth addysgiadol. Bydd yr adnoddau yma yn seiliedig ar wybodaeth am amgylchedd lleol Pen Llŷn yng Ngwynedd a Phenrhyn Iveragh yn Kerry.
Bydd gweithdai, rhaglenni addysg a sesiynau cyfnewid gwybodaeth yn cael eu trefnu er mwyn dod â chriw gweithredol o lysgenhadon gweithgar a ‘gwyddonwyr y bobl’ at ei gilydd ar y ddau benrhyn. Bydd rhain yn gwybod sut i farchnata’n ddigidol a bydd ganddyn nhw wybodaeth eang am eu hamgylchedd lleol.
Mae LIVE yn adeiladu ar sylfaen dda o waith lleol sy’n bodoli’n barod ac sydd eisoes yn hyrwyddo’r hunaniaeth gref ac chariad at fro sy’n bodoli yn y ddau benrhyn. Caiff LIVE ei ariannu'n rhannol gan raglen gydweithredu Iwerddon Cymru.
Blog
Gwybodaeth diweddaraf o Ben Llyn, Iveragh a thu hwnt