top of page

Ecoamgueddfa Llŷn ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

Wrth i gyfnod prosiect LIVE, sydd wedi ariannu gwaith Ecoamgueddfa Llŷn dros y tair blynedd diwethaf, ddirwyn i ben bydd staff a phartneriaid y prosiect yn estyn croeso cynnes iawn i bawb i Ben Llŷn ar faes yr Eisteddfod ym Moduan rhwng 5-12 Awst.


Ecoamgueddfa ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd stondin Ecoamgueddfa Llŷn yn ben llanw tair blynedd o waith ar gynllun arloesol sydd wedi gweld codi ymwybyddiaeth sylweddol yn yr ecoamguddfa – y cyntaf o’i math yng Nghymru. Bydd y stondin yn gyfle i bobl ddysgu am bwrpas y cyd-weithio rhwng partneriaid yr ecoamgueddfa a’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd hefyd yn lwyfan i’r safleoedd treftadaeth sy’n rhan o’r bartneriaeth ac sydd wedi cyd-weithio dros y blynyddoedd diwethaf i hyrwyddo’r ardal.


Dywedodd Dr Einir Young, Prif Swyddog Prosiect LIVE ac Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor:


“Dros y dair blynedd diwethaf mae’r prosiect yma wedi cyflawni llawer, ac wedi adeiladu ar y cyd-weithio agos sydd wedi bodoli yn y penrhyn mewn gwahanol ffyrdd ers blynyddoedd. Mae hyn wedi cynnwys datblygu adnoddau safonol sy’n dathlu iaith, diwylliant, cyfoeth naturiol y dirwedd a’i phobl ac annog cyd-weithio yn ein cymunedau i hyrwyddo huniaith arbennig yr ardal arbennig a chodi ymwybyddiaeth pobl o’r hyn sydd gan Ben Llŷn i’w gynnig i’r byd i gyd. Bydd y stondin yn rhoi cip olwg i bawb o’r gwaith sydd wedi cael ei gyflawni a, gobeithio yn annog trafodaeth ar ‘be nesa’...


“Mae gennym amserlen lawn o arlwy difyr a chyffrous ar gyfer yr wythnos, yn cynnwys lansiad tri llyfr, sgyrsiau a sesiynau difyr am brosiectau megis Gair Mewn Gwlân, Mapiau Saffari Bywyd Gwyllt sy’n adnabod prif rywogaethau ardaloedd Llŷn, a lansiad cyfres o vlogs llwybrau Llŷn sydd wedi cael eu ffilmio gan Aled Hughes. Mae’r stondin wir yn cynnig rhywbeth i bawb.”


Mae chwech o brif safleoedd twristiaeth Llŷn yn rhan o bartneriaeth yr Ecoamgueddfa, sef; Porth y Swnt, Nant Gwrtheyrn, Oriel Plas Glyn y Weddw, Plas yn Rhiw, Amgueddfa Forwrol Llŷn a Felin Uchaf. Bydd y stondin yn agor ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod gyda sgwrs banel rhwng y safleoedd yn trafod pwysigrwydd twristiaeth adfywiol i Ben Llŷn, effaith y gwaith a heriau a chyfleoedd y dyfodol.


Ychwanegodd Arwel Jones, Rheolwr prosiect LIVE:

“Bydd ein stondin yn lwyfan i’r hyn mae Penrhyn Llŷn yn ei gynnig i bobl sydd yn ymweld trwy gydol y flwyddyn yn ogystal a dangos beth mae criw yr ecoamgueddfa wedi bod yn ei wneud dros y dair blynedd diwethaf.


“Bydd digon o weithgareddau hwyliog a chreadigol i bobl ac i blant ar y stondin, yn cynnwys cyfle i roi to ar ffrâm bren draddodiadol efo criw Felin Uchaf a chyfle i liwio murlun hyfryd wedi’i greu gan yr artist lleol Tess Urbanska.


“Pen Llŷn - yn gartref ac yn gyrchfan’ yw slogan yr ecoamgueddfa, a dyma yn union fydd ein stondin ar faes yr Eisteddfod. Galwch draw am baned, sgwrs a chroeso cynnes iawn.”


I weld amserlen lawn o weithgareddau a sesiynau’r wythnos ar stondin Ecoamgueddfa Llŷn cliciwch y ddolen yma.

 

Amserlen llawn yr wythnos


Dyddiol am 11am o’r dydd Sul ymlaen – ysgolion y dalgylch yn cyflwyno ac yn arddangos eu gwaith prosiect ‘Gair mewn Gwlân.’

Dydd Sadwrn, 5 Awst

11am – Sgwrs gan Dafydd Davies-Hughes, Felin Uchaf ‘Y daith o’r dechrau i heddiw’


1pm - Panel cwestiwn ac ateb gyda partneriaid yr Ecoamgueddfa dan arweiniad Geraint Hughes Iocws – Yr heriau a’r cyfleoedd i dwristiaeth ym Mhen Llŷn


3pm – Lansiad y prosiect gair mewn gwlân, Esyllt Maelor


Dydd Sul, 6 Awst

1pm – Sgwrs gan Llŷr Titus am Feddyges Bryncanaid, Ann Griffiths a'i dawn gyda meddyginiaeth werin


3pm – Cyhoeddi Ciplŷn. Mae’r gyfrol hon yn cyflawni dau nod, sef cyflwyno Ecoamgueddfa Llŷn i’r genedl a rhoi cyfle i 14 o ‘ferchaid’ Pen Llŷn gael rhannu eu profiadau a’u teimladau am eu milltir sgŵar eu hunain drwy air a llun. Sesiwn yng nghmwni golygydd y gyfrol Einir Young a rhai o ferched Llŷn i glywed mwy am eu profiadau nhw.

Dydd Llun, 7 Awst

1pm – Saffari bywyd gwyllt Llŷn. Cyfle i ddysgu am brosiect celf a natur o greu mapiau Y 5 Mawr.


3pm – Milltir sgwâr Capten. Llŷr Titus fydd yn holi Meinir Pierce Jones am y broses o greu a chyhoeddi canllaw digidol o daith cymeriadau ei nofel adnabyddus ‘Capten’


Dydd Mawrth, 8 Awst

1pm – Lansio flogs Llwybrau Llyn Aled Hughes

3pm - Sesiwn ymgysylltu â natur i blant gyda Ben Porter


Dydd Mercher, 9 Awst

1pm – Dwdls Cymraeg. Lansiad Llyfr Dysgu Cymraeg yr Athro Oliver Turnbull


3pm – Y Penyberth go iawn. Sgwrs dan arweiniad Ffion Enlli gyda Helen Williams-Ellis - Y Penyberth go iawn – Y stori cyn ac wedi’r ysgol fomio.


Dydd Iau, 10 Awst

1pm - Emrys Parry: Ymfudwr o Gymru. Gwyn Jones yn holi’r arlunydd Emrys Parry


4pm - Shantis gyda Chôr yr Heli a Gwenan Gibbard


Dydd Sadwrn, 11 Awst

1pm - Bryngaerau Oes Haearn Pen Llŷn - Bydd Rhys Mwyn yn trafod Gwaith archeoleg diweddar gan Brifysgol Bangor a’r prosiect Ecoamgueddfa LIVE ar ddwy fryngaer bwysig yn Llŷn: Tre’r Ceiri a Meillionydd. Byddwch yn mynd ar daith rithiol 360-gradd o amgylch Tre’r Ceiri ac yn clywed am arwyddocâd rhai o’r darganfyddiadau diweddar ym Meillionydd. Bydd cyfle i drin gwrthrychau ar ddiwedd y sgwrs.





bottom of page