Bu mis Chwefror yn fis o dywydd gwyllt gyda stormydd Dudley, Eunice a Franklin ar ein gwarthaf. Tasem ar y môr mewn padell ffrio byddem wedi cael yn ein chwythu i’r Eil-o-Man.
Penderfynodd yr haul ddod allan i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi ac roedd yn falm i’r corff a’r meddwl gael crwydro yn ôl troed pobl yr Oes Efydd ar Fynydd Rhiw gyda chriw o bobl dan arweiniad Rhys Mwyn.
Dechreuodd y daith ym Maes Parcio Plas yn Rhiw – un o safleoedd #Ecoamgueddfa
Plas yn Rhiw
Mae tipyn o dynu fyny tuag at Eglwys Sant Aelrhiw, adeliad sy’n dyddio o’r 18fed ganrif ond sydd ar safle lawer hŷn. Cyn dod at yr Eglwys fe aethom i weld Ffynnon Aelrhiw sydd mewn cae cyfagos. Dyma un o’r arosfannau olaf i bererinion ar eu taith i ynys Enlli. Mae sôn fod dŵr y ffynnon yn gallu iachau afiechydon ar y croen.
Ffynnon Aelrhiw
Copa Mynydd Rhiw oedd ein nôd. Ar y ffordd fe welsom grair sydd heb ei gofnodi eto – rhywbeth sy’n edrych fel bedd bach, wedi ei ddatguddio gan Foch Daear yn tyrchio. Mae’r darganfyddiad yn cael ei gofnodi gyda Chymdeithas Archaeoleg Gwynedd a’i gloddio’n swyddogol.

Cawsom weld Ffatri Fwyelli Rhiw. Cai siâl lleol ei gloddio i gynhyrchu bwyelli cerrig ac offer arall Roedd rhywfaint o ddadlau os taw ‘ffatri’ oedd y safle mewn gwirionedd ond hollti blew yw hynny. Roedd dychmygu ein hynafiaid o 4000-2500 CC wrth eu gwaith yn ddiddorol tu hwnt.

Am hanner dydd cawsom funud o dawelwch ar gais Academi Heddwch Cymru i ddangos undod gyda phobl Wcrain a phobl eraill ar draws y byd sydd yn dioddef gorthrwm. Roedd yn brofiad dirdynol – dyma ni yn harddwch Llŷn yn mwynhau a hithau’n awr ddu iawn ar ddynoliaeth.
Cawsom hoe a sgwrs ar un o’r carneddau cyn ei throi hi nôl am Blas yn Rhiw i fwynhau paned a chacan gri (pice ar y ma’n!) yn yr haul.
Diwrnod hyfryd yn wir. Roedd yn braf cael cwmni pawb – yn enwedig Cadi’r ci!

Mae llawer mwy o fanylion Taith Gerdded Archeolegol Mynydd Rhiw ar wefan Ecoamgueddfa a LIVE.
Comments