top of page

Ystlumod Iveragh a Llŷn

Pan fydd pobl yn meddwl am ein mamaliaid brodorol, efallai y byddan nhw’n dychmygu llwynog yn troedio’n gyfrwys drwy gae, hydd yn mwynhau haul yr hydref neu efallai ysgyfarnogod yn paffio’n chwareus ar fore braf o wanwyn. Mae’n bosibl bod ein hystlumod yn cael eu hanwybyddu’n aml, ond fel yr unig famal sy’n gallu hedfan go iawn, maen nhw’n grŵp gwych o anifeiliaid sy’n haeddu eu lle ar y rhestr o’n hoff famaliaid brodorol.


Mae ein hystlumod yn dechrau ymddangos ar ein tirweddau yn y gwanwyn, gan ddod allan o’u gaeafgwsg – yn aml o ogof, o le gwag cudd mewn coeden neu efallai o adfail hen adeilad fferm. Mae eu hediadau syfrdanol yn llenwi’r awyr, yn enwedig o amgylch gwrychoedd, coetiroedd ac uwch ddyfrffyrdd. Maen nhw’n feistri ar wneud bob math o giamocs yn yr awyr, ac maen nhw’n dal ysglyfaeth o'r awyr neu o arwyneb dail. Mae'r ystlum lleiaf sy’n pwyso tua 5g yn gallu bwyta hyd at 3,000 o bryfed y noson – newyddion gwych i’r rheini ohonom sydd wedi dioddef o gael ein pigo gan wybed drwy'r nos!


Daubenton’s Bat specialises in catching aquatic insects above the water surface. Look for them making regular passes along streams and rivers, twisting and turning to grab their prey mid-air.
Mae'r Ystlum Daubenton yn arbenigo mewn dal pryfaid dyfrol uwchben wyneb y dŵr. Gwyliwch allan amdanynt ger nentydd ac afonydd lle maent yn troelli a throi yn yr awyr wrth iddynt geisio dal y pryfaid.

Y tymor paru yw tymor yr hydref, ond mae’r benywod yn defnyddio ymddygiad a elwir yn ‘oedi ffrwythloni’. Gallan nhw ddewis pryd i feichiogi a byddan nhw’n aros i gael yr amodau iawn i wneud hynny yn y gwanwyn. Pan fyddan nhw’n teimlo newid yn y tywydd ac yn sylwi ar gynnydd mewn bwyd, mae’r menywod yn gwybod mai dyma’r amser iawn i roi’r cyfle gorau i’w cywion oroesi. Mae’r darpar famau hyn yn ymgynnull mewn ‘clwydfannau mamolaeth’ – hafan ddiogel iddyn nhw a’u cywion newydd-anedig sy’n cyrraedd ym mis Mehefin. Fel mamaliaid, mae angen i famau fwydo i gynhyrchu llaeth ar gyfer eu cywion llwglyd fel y byddan nhw’n mentro allan sawl gwaith bob nos gan wybod bod y bychan yn ddiogel yn y man clwydo gyda'r lleill. Mae gan bob ystlum un cyw, ac maen nhw’n eu hadnabod wrth eu harogl wrth ddod nôl i glwydo, ac anaml iawn y byddan nhw’n hedfan gyda nhw. Yn hytrach, mae’r ystlumod ifanc yn cymdeithasu gyda’i gilydd, gan ymarfer eu sgiliau chwifio’u hadenydd, a chyn pen dim byddan nhw'n mentro ar antur fach hedfan eu hunain. Mae astudiaeth ddiweddar hyd yn oed wedi datgelu eu bod yn ‘parablu’, math o lais cynnar sy’n cyfateb i fabanod dynol yn dysgu siarad – sgil bwysig i unrhyw anifail sy’n byw mewn grwpiau. Ddiwedd yr haf, bydd ein hystlumod bach yn gadael y man clwydo ac yn dechrau chwilio am fwyd gyda’r oedolion.


Un camsyniad cyffredin yw bod ystlumod yn ddall, ond mewn gwirionedd mae ganddyn nhw olwg eithaf da. Mae ein ystlumod yn newid yn rheolaidd rhwng hela gweledol ac ecoleoliad wrth chwilio am fwyd, gan ddibynnu ar gynefin a lefelau golau. Mae llawer o ystlumod yn samplu lefelau’r golau mewn hediadau byr o gwmpas mynedfa eu clwydfan – mae hyn yn dweud wrthyn nhw a yw’n ddiogel dod i’r golwg ac yn ddigon tywyll i osgoi llawer o ysglyfaethwyr yn ystod y dydd. Gall golau artiffisial ddrysu ystlumod yn ystod eu hediadau samplu ysgafn ac achosi iddyn nhw oedi cyn dod allan. Mae hyn yn golygu eu bod yn colli’r holl fwyd sydd o’u cwmpas yn ystod y cyfnos, cyfnod pan fydd newid rhwng y pryfed sy’n hedfan yn ystod y dydd a’r nos. Mae’r bwyd hwn yn arbennig o bwysig i’r mamau nyrsio hynny sydd â rhai bach i’w bwydo. Mae golau artiffisial hefyd yn rhwystr i rai rhywogaethau ystlumod gan ei fod yn gwneud iddyn nhw deimlo’n agored i niwed gan ysglyfaethwyr. Mae hefyd yn cael effeithiau negyddol ar y rhywogaethau sy’n cael eu hela gan ystlumod fel gwyfynod a lindys, gan newid y gadwyn fwyd y mae ystlumod yn dibynnu arni.


Mae Cymru yn gartref i 15 o’r 18 rhywogaeth o ystlumod yn y DU, ac mae 14 ohonyn nhw wedi’u cofnodi yng Ngogledd Cymru. Mae naw o’r rhywogaethau’n byw yng Ngwynedd, ardal cyngor penrhyn Llŷn, ac mae rhai rhywogaethau wedi’u cofnodi’n mudo rhwng Cymru ac Iwerddon yn y gwanwyn a’r hydref. Gogledd Cymru yw un o’r ychydig fannau yn y DU lle ceir yr ystlum pedol lleiaf prin. Mae’r llu o hen adeiladau, ogofâu, twneli a chloddfeydd yn y rhan hon o’r DU yn safleoedd clwydo delfrydol i ystlumod. Yn Llŷn, mae Oriel Plas Glyn-y-weddw, un o safleoedd yr ecoamgueddfa yn Llanbedrog, yn fan da i weld neu ‘eco-leoli’ y rhywogaeth brin hon. Mae’r ystlum Natterer, ystlum barfog, ystlum Brandt a’r ystlum Daubenton hefyd yn cael eu cofnodi’n fwy aml yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU. Yr ystlum lleiaf cyffredin, sef y “soprano”, a’r ystlum hirglust brown yw’r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn y DU ac Iwerddon. Mae’r rhywogaethau eraill mewn niferoedd bach neu dim ond mewn mannau penodol o amgylch Gwynedd y gellir eu gweld. Er enghraifft, dim ond un man clwydo o’r ystlum adain-lydan sydd wedi’i ddarganfod yng Ngogledd Cymru. Does dim un o glwyddfannau’r ystlum du wedi’u darganfod eto, ond maen nhw wedi’u cofnodi yn yr ardal, felly mae’n debyg nad ydym yn gwybod amdanyn nhw.


Pen Llŷn and Iveragh support large numbers of Lesser Horseshoe Bat. As this species is declining in other parts of its range, our local populations are of critical international importance to their survival.
Mae Pen Llŷn ac Iveragh yn gartref i niferoedd mawr o ystlumod Pedol Lleiaf. Yn anffodus, mae'r niferoedd yn dirywio mewn mannau eraill o'r byd, felly mae'r rhai sydd yma'n Llŷn ac Iveragh o bwysigrwydd rhyngwladol hanfodol i'w goroesiad.

Yn Iwerddon, mae gennym 9 o rywogaethau ystlumod preswyl ac mae 8 o’r rhain wedi’u cofnodi ar Iveragh: sef yr ystlum Pedol Lleiaf, y Leisler, y Daubenton, Hirglust brown, y Natterer, a 3 rhywogaeth o’r ystlum lleiaf – ystlum cyffredin, y Soprano a'r Nathusius. Y 9fed yw’r ystlum barfog sydd wedi’i gofnodi ym Mharc Cenedlaethol Killarney, felly efallai eu bod eisoes ar Iveragh, ond dydyn ni ddim wedi’u cofnodi...eto! Mae niferoedd yr Ystlum Pedol Lleiaf yn gostwng yn ddifrifol mewn sawl rhan o dir mawr Ewrop. Mae gan y rhywogaeth hon gadarnle yng ngorllewin Iwerddon (gan gynnwys Iveragh) a Chymru (gan gynnwys Llŷn). Felly, mae ein cynefinoedd lleol yn bwysig yn rhyngwladol er mwyn i’r rhywogaeth oroesi.


This map shows how the Lesser Horseshoe Bat has a stronghold in the west of Ireland and the southwest of the UK – including Iveragh and Llŷn.
Mae'r map hwn yn dangos sut mae gan yr Ystlum Pedol Lleiaf gadarnle yng ngorllewin Iwerddon a de-orllewin y DU – gan gynnwys Iveragh a Phen Llŷn.

Rydyn ni’n ffodus iawn o gael ystlumod yn ein hamgylchedd, a bydd sefydlu'r Kerry International Dark Sky Reserve a Gwarchodfa Awyr Dywyll Gogledd Cymru yn siŵr o helpu ein cyfeillion blewog yn yr awyr. Mae ystlumod yn gysylltiadau hollbwysig yn ein byd naturiol, gan gymryd rhan allweddol yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth rheoli plâu hanfodol i’n diwydiant amaethyddol. Maen nhw hefyd yn codi’n aml yn ein hen chwedlau – arwydd clir bod ein hynafiaid wedi cael eu cyfareddu cymaint gan y mamaliaid cyfrinachol hyn ag ydyn ni heddiw. Does ond rhaid meddwl am straeon am ystlumod yn mynd yn sownd yn ein gwallt (hen goel yn ôl pob tebyg i gadw merched yn y tŷ gyda’r nos), am ystlumod yn newid ffurf a’u cysylltiad â fampiriaid yn golygu bod eu statws fel creaduriaid y nos wedi eu gwneud yn gymeriadau amheus yn ein llên gwerin. Ond maen nhw’n greaduriaid hyfryd ac nid ydyn nhw’n faleisus o gwbl. Mae ganddyn nhw natur famol ofalgar a nhw yw’r unig famal sy’n hedfan. Yn sicr, mae ystlumod yn haeddu lle amlwg yn ein rhestr o fywyd gwyllt brodorol.


The Noctule is out largest bat with a wingspan of 32-40cm. The fur is golden-brown fur, with darker wings, ears and face. It is usually seen flying over the canopy on the hunt of insects.
Yr Ysltum Mawr (Noctule) yw'r ystlum mwyaf yn Llyn. Mae ganddo led adenydd rhwng 32 - 40cm. Mae ei ffwr yn frown euraidd, ai adenydd, clustiau a'i wyneb yn dywyll. Fe'i gwelir fel arfer yn hedfan dros y canopi wrth hela pryfed.

Ffeithiau am Ystlumod

Oeddech chi’n gwybod bod gwahanol rywogaethau o ystlumod yn creu synau ecoleoliad ar wahanol amleddau? Gall hyn hefyd eich helpu i ganfod pa rywogaethau sydd gennych yn eich ardal. Gellir defnyddio teclynnau fel blwch ystlumod neu Fesurydd Eco i wrando ar yr amleddau hyn a synau’ch ystlumod lleol. Efallai y cewch eich synnu bod gennych chi fwy nag un rhywogaeth yn eich ardal!


Yr enw Gwyddeleg ar gyfer ystlum yw Ialtógond fe’u gelwir hefyd yn Sciathán leathair sy’n golygu ‘adain lledr’. Yn Lladin maen nhw’n cael eu galw’n ‘Chiroptera’ sy’n golygu ‘llaw adeiniog’. Maen nhw’n ffurfio eu grŵp eu hunain o famaliaid oherwydd eu gallu i hedfan o dan reolaeth.


Mae adenydd ystlum yn cynnwys haenau tenau o groen a elwir yn adein-bilen. Mae’r bilen hon yn cael ei hymestyn dros esgyrn bysedd hir llaw yr ystlum sy’n creu’r adenydd maen nhw’n eu defnyddio i hedfan.


Mae Bats and Bugs yn gydweithrediad rhwng Bat Conservation Ireland a’r Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol a Bywyd Gwyllt. Eu nod yw cael gwybod beth mae ein hystlumod yn ei fwyta a gallwch chi helpu hefyd. Edrychwch ar y wefan i gael rhagor o wybodaeth.



Bats are among a host of wildlife that have made their homes in our built landscapes. This Wildlife in Buildings booklet provides excellent information on what to do if you have bats in your home/restoration project and how to make your space more bat friendly.
Bats are among a host of wildlife that have made their homes in our built landscapes. This Wildlife in Buildings booklet provides excellent information on what to do if you have bats in your home/restoration project and how to make your space more bat friendly.

Dolenni defnyddiol



bottom of page