top of page

Y Gigfran - Common Raven – Fiach dubh - Corvus corax


Beth sydd mewn enw?

Ystyr yr enw Lladin ‘Corvus’ yw ‘cigfran’, ac mae’r enw Groeg ‘Corax’ hefyd yn golygu ‘cigfran’. Felly, ystyr enw gwyddonol y rhywogaeth hon yw ‘cigfran cigfran’. Mae Corvus corax yn ‘ymadrodd tawtolegol dwyieithog,’ sy’n ffordd grand o ddweud ‘dau air sy’n golygu’r un peth ond mewn dwy iaith wahanol’: yn yr achos hwn, Lladin a Groeg.

Sut i adnabod y gigfran:

Y Gigfran yw’r frân fwyaf y byddwch yn dod ar ei thraws yng Nghymru ac Iwerddon: mae o faint tebyg i adar ysglyfaethus fel y Bwncath. Mae amlinell ei hadenydd llydan a’i chynffon unigryw siâp diemwnt yn amlwg yn uchel yn yr awyr - a’i chrawcian cryg ailadroddus i’w glywed yn aml: ‘crawc-crawc-crawc!’. Mae pig mawr blaenllym tywyll y gigfran yn helpu i wahaniaethu rhyngddi hi â’r Ydfran a’r Frân Dyddyn.


Bydd yr adar hyn yn aml yn dangos eu gallu trawiadol gan droi 180° wrth blymio drwy’r awyr; ymddygiad trawiadol y gellir ei weld yn y gwyntoedd cryfion ar hyd arfordir Llŷn a wyneb godidog y clogwyni yn Iveragh.


Recordiad o alwad cigfran – crawcian cras, dwfn. Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter.


Ecoleg, dynameg gymdeithasol a nodweddion tymhorol:

Mae’r gigfran yn feistr ar ymgyfaddasu i wahanol gynefinoedd, ac mae hynny wedi galluogi iddi ymledu ar draws Hemisffer y Gogledd yn ei gyfanrwydd bron, o rannau o Ganada sydd yn yr Arctig i anialwch gogledd Affrica1. Mae dosbarthiad y rhywogaeth yn cwmpasu Hemisffer y Gogledd bron yn ei gyfanrwydd, yn rhannol oherwydd rhychwant ac amrywiaeth ei deiet. Yng Nghymru ac Iwerddon, maent i’w cael o fannau mynyddig i glogwyni arfordirol agored. Mae deiet y gigfran yn amrywio’n fawr yn ôl yr ardal a’r tymor: mewn llawer o ardaloedd mae’n ysglyfaethu yn bennaf, gan ddarparu gwasanaeth ‘glanhau’ hanfodol, sy’n debyg i eiddo’r fwltur. Mae’r gigfran yn bwydo ar amrywiaeth eang o rywogaethau fel mamaliaid bach, adar bach, wyau a chreaduriaid di-asgwrn-cefn; ynghyd â hadau, aeron a sbarion o domenni hefyd. 2, 3.


Mae cigfrain yn greaduriaid cymdeithasol iawn, fel llawer o rywogaethau eraill o frain. Maent yn aml yn ymgynnull mewn nythfeydd cyffredin dros fisoedd y gaeaf, ac mae astudiaethau wedi dangos bod y nythfeydd hyn yn ‘ganolfannau cyfnewid gwybodaeth’ pwysig. Er enghraifft, mae adar ifanc mewn nythfeydd o’r fath yn defnyddio galwadau penodol i gyfathrebu ag adar ifanc eraill, gan eu recriwtio i chwilio am fwyd mewn ffynhonnell fwyd gyfagos, fel carcas anifail, y diwrnod canlynol. Weithiau bydd hyn yn caniatáu i’r adar ifanc hyn ddisodli pâr o oedolion cryfach sy’n bwydo ar gelain, gan eu trechu drwy rym niferoedd. Gydag ymennydd sydd ymysg y mwyaf o blith unrhyw rywogaeth o aderyn, mae gallu’r Gigfran i gwblhau tasgau gwybyddol a datrys problemau bron heb ei ail. Maen nhw’n un o’r ychydig rywogaethau o adar y cofnodwyd eu bod yn ymroi i chwarae, fel llithro i lawr banciau eira a defnyddio gwrthrychau fel brigau mewn chwarae cymdeithasol. 4.


Chwedlau a llên gwerin yn gysylltiedig â’r gigfran:

Mae’r Gigfran wedi bod yn amlwg iawn yn chwedloniaeth a mytholeg llawer gwlad ac mae hyn yn sicr yn wir am ddiwylliannau Celtaidd Cymru ac Iwerddon. Mae ei gweld yn sbeuna am fwyd ymysg gweddillion a’i hoffter o gelanedd yn sicr wedi dylanwadu ar y ffordd y portreir y rhywogaeth hon – sy’n cael ei hystyried yn arwydd drwg, neu’n gennad marwolaeth. Fodd bynnag, nid edrychid arnynt yn anffafriol bob amser. Yn nhraddodiadau’r Llychlynwyr, fe’u gwelid fel negeswyr y duwiau ac roedd y Llychlynwyr yn eu defnyddio i gyfeirio eu ffordd yn ôl tua’r lan pan oeddent yn y môr. 5.


Roedd Bendigeidfran, neu Brân Fendigaid, yn gawr ac yn warcheidwad Ynys Brydain ym mytholeg y Cymry. Pan fu farw mewn brwydr yn Iwerddon, cafodd ei ben ei gladdu o dan Dŵr Llundain a dywedir ei fod yn cadw Prydain yn ddiogel rhag goresgyniad. Mae o leiaf chwe chigfran wedi eu cadw yn Nhŵr Llundain ers yr 17eg Ganrif, a chredir eu bod hwythau hefyd yn diogelu Prydain rhag dinistr. Claddu pen Brân o dan y tŵr yw’r cysylltiad cynharaf rhwng Tŵr Llundain a’r gigfran. 5, 6, 7, 8.


Roedd y dduwies ryfel Geltaidd ‘Morrígan’, yr oedd ei phresenoldeb yn dangos bod rhyfel neu farwolaeth ar y gorwel yn gallu ymddangos ar ffurf cigfran. Fe wnaeth Morrígan ddifrodi cerbyd arweinydd enwog Ulster, Cú Chulainn, y noson cyn ei farwolaeth, a’i rybuddio na fyddai’n dychwelyd pe bai’n mynd i’r frwydr drannoeth. Ni wrandawodd Cú Chulainn ar ei chyngor ac fe’i lladdwyd yn y frwydr. Dim ond pan ddaeth y Morrígan ar ffurf cigfran i glwydo ar ei ysgwydd yr oedd ei elynion yn siŵr ei fod wedi marw. 9


Cigfran ar graig, gydag Ynys Enlli ac Ynysoedd Gwylanod yn y cefndir. Darparwyd gan Ben Porter.

Nodyn arbennig ar Iveragh:

Gellir gweld cigfrain yn y rhan fwyaf o lefydd yn Iveragh, ond rhai o’r llefydd gorau i’w gweld yw Cnoc na dTobar, Bray Head ar Ynys Valentia, ac ar hyd cylchdaith Bolus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando am eu crawcian cras dwfn wrth iddynt hedfan; efallai y bydd rhai hyd yn oed yn dangos eu campau yn hedfan ar ben i lawr fel yn y fideo isod.


Cigfran yn dangos ei gallu i droi ar ben i lawr wrth hedfan uwch pen eithaf Bolus Head. Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Fiach Byrne.

Nodyn arbennig ar Benrhyn Llŷn:

Mae cigfrain i’w gweld ar draws tirwedd Llŷn, gydag adar yn nythu yn y tir o gwmpas ardaloedd coediog ac ar hyd clogwyni arfordirol. Fe’u gwelir mewn parau fel arfer, ond gwelir heidiau mawr o 40 neu fwy ar adegau penodol o’r flwyddyn, yn enwedig yn yr hydref. Gwrandewch am eu crawcian nodweddiadol wrth gerdded o amgylch Mynydd Rhiw, Garn Fadryn a’r Eifl, lle bydd adar yn aml yn defnyddio ceryntau gwynt thermol i hedfan yn uchel iawn uwchben.


Galwad cigfran yn torri ar dawelwch Coedwig Tyn y Parc. Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter. Cyfeiriadau:


bottom of page