Taith Gerdded Dydd Gŵyl Dewi
Bu mis Chwefror yn fis o dywydd gwyllt gyda stormydd Dudley, Eunice a Franklin ar ein gwarthaf. Tasem ar y môr mewn padell ffrio byddem wedi cael yn ein chwythu i’r Eil-o-Man. Penderfynodd yr haul ddod allan i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi ac roedd yn falm i’r corff a’r meddwl gael crwydro yn ôl troed pobl yr Oes Efydd ar Fynydd Rhiw gyda chriw o bobl dan arweiniad Rhys Mwyn. Dechreuodd y daith ym Maes Parcio Plas yn Rhiw – un o safleoedd #Ecoamgueddfa Plas yn Rhiw Mae tipyn o dynu