Sut i’w adnabod
Mae llamhidydd yr harbwr yn llawer llai nag unrhyw forfilod eraill a geir yn nyfroedd Cymru ac Iwerddon. Dim ond hyd at 2 fetr o hyd maen nhw’n ei gyrraedd ac fel arfer maen nhw’n dod i’r arwyneb yn gyflym mewn symudiad rowlio, heb stopio fel y mae dolffiniaid eraill yn ei wneud. Mae eu hasgell ddorsal hefyd yn llawer llai amlwg, am ei fod yn fwy trionglog ei siâp. Weithiau, cyfeirir atyn nhw fel ‘moch chwythu’, sy’n deillio o sŵn eu chwythiad (anadl). Pan fyddan nhw’n ymddangos, gellir clywed y ‘chwyth’ hwnnw o’r lan mewn amgylchiadau tawel iawn.
Symudiad rolio cyflym llamhidydd harbwr ym Mae Kenmare, Iveragh – Christina Winkler
Ecoleg, dynameg gymdeithasol a nodweddion tymhorol
Yn wahanol i’w perthnasau mwy, y dolffiniaid, mae’r llamhidyddion yn byw bywyd mwy unig ac nid yw heidiau mawr ohonyn nhw’n olygfa gyffredin. Mae’n fwy tebygol eu gweld ar eu pen eu hunain, mewn grwpiau bach o rai unigolion, neu fel mam a llo. Dyma’r rhywogaethau mwyaf cyffredin o deulu’r morfil yn nyfroedd Cymru a gellir eu gweld bron yn unrhyw le. Fodd bynnag, mae’n well ganddyn nhw ardaloedd lle mae gwahanol fathau o gerrynt, fel o gwmpas y pentiroedd. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys llawer o’u hoff ysglyfaeth, fel llymrïod a rhywogaethau pysgod llai eraill. Yn ystod misoedd yr haf, gellir eu gweld yn amlach, gan eu bod yn dueddol o fudo gyda’u ffynhonnell fwyd, sy’n symud i ddŵr mwy agored yn y misoedd oerach. Ar wahân i ddyfroedd o amgylch Iwerddon a’r DU, mae eu dosbarthiad arfordirol yn ymestyn cyn belled i’r gogledd â Gwlad yr Iâ, yr Ynys Las ac Alaska a chyn belled i’r de â gogledd UDA, gogledd-orllewin Affrica a Japan. Er eu bod i'w gweld yn eang drwy Ewrop, nid ydyn nhw, fodd bynnag, yn byw ym Môr y Canoldir ac maen nhw’n gwbl absennol yn hemisffer y de.
Llamhidyddion yr harbwr o gwmpas Pen Llŷn
Mae Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Penrhyn Llŷn yn cynnig digon o fannau gwylio gyda golygfa dda. Lleoliad arall i weld llamhidyddion yr harbwr yn rheolaidd (yn ogystal â dolffiniaid Risso) yw Ynys Enlli.
Llamhidyddion yr harbwr ar hyd arfordir Iveragh
Er mai’r rhain yw’r morfilod mwyaf gweladwy yn nyfroedd Iwerddon, gall llamhidyddion yr harbwr fod yn anodd eu gweld mewn tywydd garw, sydd yn digwydd yn eithaf aml ar arfordir gorllewinol Iwerddon. Felly mae’n nhw’n cael eu gweld yn aml mewn mannau cysgodol, ee Ballinskelligs a Bae Kenmar, ond hefyd o Bolus a Bray Head.
Oeddech chi’n gwybod...
... gallwch ddod yn ddinesydd-wyddonydd eich hun a helpu i ganfod ble ar Iveragh a Llŷn y gellir gweld morfiod, dolffiniaid a llamhidyddion? Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi a chyflwyno ein ffurflen gweld ar gyfer Iveragh. Bydd cyflwyniadau nid yn unig ar gael i’r gymuned leol drwy ein gwefan LIVE, ond byddan nhw hefyd yn cael eu rhannu â Grŵp Morfilod a Dolffiniaid Iwerddon yn ogystal â’r Ganolfan Ddata Bioamrywiaeth Genedlaethol. Ar gyfer nodi eich bod wedi gweld aelod o deulu’r morfil yn Llŷn, gellir llenwi ffurflen drwy'r Sea Watch Foundation. Gellir rhoi gwybod am unrhyw anifail sy’n sownd drwy’r CSIP, ac ar gyfer rhoi gwybod am anifeiliaid byw sy’n sownd, cysylltwch â British Divers Marine Life Rescue ar 01825 765546.
Deunydd darllen ychwanegol:
Species - IWDG
Species – IWC
Species - JNCC
Shannon Dolphin Project – IWDG
Dolphin Watch - Pen Llŷn a’r Sarnau
Comments