top of page

Dyfrgi Ewrasiaidd – Lutra lutra

Dyfrgi Ewrasiaidd – Lutra lutra – Madra uisce/Dobhar cá – Eurasian Otter


Mae’r Dyfrgi Ewrasiaidd (Madra uisce) i’w gael ledled Asia, Ewrop a Gogledd Affrica. Yn ffodus i drigolion ac ymwelwyr â Phen Llŷn ac Iversagh, mae’r rhywogaeth garismatig hon i’w gweld yn ardaloedd arfordirol a dyfrffyrdd y ddau benrhyn. Wedi dweud hyn, bydd angen llygad craff arnoch chi (ac ychydig o lwc) i gael cipolwg ar un. Mae hyn yn arbennig o wir gan fod y Dyfrgi Ewrasiaidd yn anifail sydd fel arfer ar ei ben ei hun ac mae’n greadur nosol, gyda’r rhan fwyaf o’i weithgarwch yn digwydd o gwmpas y wawr ac wrth iddi nosi. 1



Dyfrgi Ewrasiaidd brodorol yn rhedeg. ©Linda Lyne

Mae’r dyfrgi yn perthyn i deulu ‘Mustelidae’ y wenci. Grŵp o famaliaid cigysol yw hwn sy’n cynnwys Ffureti (Firáad), Carlymod (Easág), Mincod (Minc), a Moch Daear (Broc). 2


Mae gan y gair Gwyddelig am ‘dyfrgi’ yr un ystyr â’r gair Cymraeg, sef ‘ci’r dŵr’, sy’n cyfeirio at ffordd o fyw lled-ddyfrol y rhywogaeth. Y ddau enw mwyaf cyffredin ar gyfer y dyfrgi mewn Gwyddelig yw ‘madra uisce’ (Gwyddelig modern) a ‘dobhar cú’, ac mae’r ddau yn golygu ‘ci’r dŵr’.


Edrychiad, addasiadau a chymhariaeth â Dyfrgwn y Môr:


Mae’r Dyfrgi Ewrasiaidd yn eithaf hawdd ei adnabod, yn enwedig pan gaiff ei weld ar y tir. Maen nhw fel arfer yn amrywio rhwng 90cm a 130cm mewn hyd o’r pen i’r gynffon, ac yn pwyso rhwng 7 a 12 cilogram. 3, 4, 5.


Mae hyn yn golygu mai nhw yw un o’r carlymoliaid mwyaf y dewch ar eu traws yng Nghymru ac Iwerddon. Mae eu ffwr brown trwchus yn dywyllach ar eu pennau nag ydyw ar yr ochr isaf. Mae eu maint, eu wisgers hir, eu ffwr trwchus a’u cynffon taprog i gyd yn help i’w hadnabod.


Er bod ein rhywogaeth frodorol, y Dyfrgi Ewrasiaidd (Lutra lutra), i’w gweld yn aml yn y môr ac mewn dyfroedd lled hallt (cymysgedd o ddŵr halen a dŵr croyw), mae’n rhaid iddynt gael mynediad at ffynonellau glân o ddŵr croyw i gadw eu ffwr yn lân; mae hyn yn gwarchod nodweddion ynysol eu ffwr, sy’n bwysig ar gyfer cadw’n gynnes. Addasiad arall i’w ffordd o fyw lled-ddyfrol yw eu traed gweog, sy’n eu helpu wrth nofio ac wrth symud ar draws priddoedd gwlyb. 3


Dyfrgi Ewrasiaidd brodorol yn cerdded ar hyd y lan. Linda Lyne



Ni ddylid drysu ein rhywogaeth frodorol gyda ‘Dyfrgi’r Môr’ (Enhydra lutris). Mae hon yn rhywogaeth hollol wahanol sydd i’w gweld yng Ngogledd y Môr Tawel yn unig. Maen nhw’n ymddangos yn aml mewn rhaglenni dogfen yn nofio ar eu cefnau uwchben coedwigoedd gwymon ger arfordir gorllewinol a gogledd-orllewinol yr UDA. Mae’r rhywogaeth hon wedi addasu’n dda ar gyfer bywyd mewn cynefinoedd morol arfordirol a gallant dreulio’u hoes yn y môr. Mae Dyfrgi’r Môr yn pwyso rhwng 14 a 45 cilogram, sy’n llawer trymach na’r rhywogaeth sy’n bodoli yng Nghymru ac Iwerddon. 6, 7, 8.



Dyfrgwn Môr ym Mae Morro, California.


Ecoleg, cynefin a deiet:

Mae dyfrgwn yn byw’n agos at afonydd, nentydd, llynnoedd a morlynnoedd arfordirol sy’n rhoi mynediad iddynt at ddŵr croyw, digon o fwyd, a chynefinoedd tiriogaethol gyda digon o orchudd – sy’n cael eu defnyddio i adeiladu ‘gwlâu’ a ‘gwalau’. Gwlâu yw’r mannau y mae dyfrgwn yn eu defnyddio i orffwys. Maent wedi’u lleoli uwchben y ddaear, yn aml ar ynysoedd, mewn gwelyau cyrs trwchus, neu mewn ardaloedd glannau eraill lle mae llawer o lystyfiant neu brysgwydd. Gwalau yw cuddfannau bridio dyfrgwn o dan y ddaear lle mae cenau’n cael eu magu. Fel arfer maent wedi’u gorchuddio’n dda ac yn agos at/y tu mewn i lannau afonydd mewn ogofâu, agennau, pyllau cerrig, neu ymysg systemau gwreiddiau coed ar lannau afonydd. 1, 3.


Mae dyfrgwn yn hynod diriogaethol, ac maent yn defnyddio eu baw i nodi eu tiriogaethau. Mae arogl melys i’r baw hwn, ac mae’n aml yn cael ei gymharu ag arogl gwair wedi’i dorri neu de jasmin. Gellir dod o hyd i’r baw hwn ar greigiau, ar siliau, neu ar safleoedd gorffwys neu bysgota maent yn eu defnyddio’n aml. Mae cadw llygad am y baw hwn yn ffordd dda o ganfod a yw dyfrgwn yn defnyddio rhannau penodol o arfordir neu afon. Mae maint tiriogaeth y dyfrgi yn dibynnu ar argaeledd adnoddau bwyd a lloches ar hyd eu darn nhw o afon neu arfordir. Gall dyfrgwn sy’n byw mewn ardaloedd lle mae digonedd o fwyd fod â thiriogaethau mor fach â 2km, a gall y rhai sy’n byw mewn ardaloedd lle mae bwyd yn fwy prin fod â thiriogaethau sy’n 20km neu fwy. 3, 4, 9


Y ffynonellau bwyd pwysicaf i ddyfrgwn yw pysgod [Crothell (Garmachán), Brith (Breac), Eog (Bradán), Llysywod (Eascann)], cramenogion a molwsgiaid [Crancod (Portán), Cimwch yr Afon (Cráifisc), Pysgod Cregyn (Sliogiasc)].


Daw amffibiaid [Broga (Frog)] yn ffynhonnell fwyd bwysig i ddyfrgwn yn ystod y Gwanwyn, ac maent hefyd yn bwyta mamaliaid bach o bryd i’w gilydd. 1, 3, 4.



Mythau, chwedlau a llên gwerin am y dyfrgi:

Mae hen stori o Iwerddon am y dyfrgi yn disgrifio’r ‘dobharchú’ fel creadur sy’n hanner ci ac yn hanner dyfrgi. Er ei fod yn debyg i ddyfrgi, dywedwyd ei fod yn llawer mwy ac yn llawer mwy ffyrnig. Dywedwyd bod ganddo ffwr gwyn, patshys du ar ei glustiau a chroes ddu ar ei gefn. 10.


Mae carreg bedd yn Glenade yn Sir Leitrim sydd â delwedd o’r dobharchú arni. Dywedir bod y garreg bedd yn perthyn i ddynes a gafodd ei lladd gan yr anifail tra’r oedd hi’n golchi dillad yn Llyn Glenade yn 1722. Pan na ddychwelodd i’w chartref y noson honno, aeth ei gŵr i chwilio amdani, a daeth o hyd i’r dobharchú yn cysgu ar ei chorff. 11, 12, 13, 14.


Nodyn gan Linda sy’n gweithio yn Iveragh:

Sawl tro bellach, rydw i wedi dilyn llif o swigod sy’n dod o dan wyneb y dŵr yn frwd, ac wedi gweld Mulfran (Broigheil) yn ymddangos. Dim nad ydw i’n hoffi mulfrain, ond yr hyn roeddwn i wir yn gobeithio ei weld oedd wyneb crwn y dyfrgi. Weithiau gall y swigod hyn fod yn arwydd bod dyfrgwn yn symud o dan y dŵr, yn ddefnyddio eu wisgers i synhwyro symudiadau crancod neu bysgod cudd. Mae dyfrgwn sy’n chwilota ar hyd arfordiroedd Iveragh yn griw caled. Er bod rhai’n glynu wrth y traethlinau neu’r aberoedd lle mae digon o wymon, mae rhai eraill yn mentro ymhellach i fyny’r afon. Ond, mae dod ar draws dyfrgi yn rowlio ac yn deifio yn nhonnau trawiadol Iveragh yn brofiad rhyfeddol. Mae gweld siâp eu cyrff yn troelli ac yn symud o dan y dŵr yn rhyfeddol. Maen nhw’n aml yn gafael yn yr hyn maen nhw wedi’i gasglu o wely’r môr. Mae llawer o ddyfrffyrdd a darnau o arfordir yn Iveragh lle gallwch gael cipolwg ar ddyfrgi, fel Ynys Valentia, Sneem a Portmagee i enwi dim ond rhai ohonyn nhw. Ac os ydych chi’n un o’r rhai lwcus, gallwch gyflwyno’r hyn a welsoch ar National Biodiversity Data Centre: Recording System: Mammals (biodiversityireland.ie).



Cofnodwyd dyfrgi yn nofio ac yn plymio oddi ar arfordir Iveragh


Nodyn gan Ben sy’n gweithio ym Mhen Llŷn:

Mae’n fore braf ym mis Mawrth ym Mhen Llŷn, ac mae'r gwynt yn chwythu tua’r gogledd, sy’n gwneud yr aer yn oer. Wrth gerdded ar hyd yr harbwr ym marina Pwllheli, rwy’n gweld criw o Wylanod y Penwaig (Faoileán scadán) yn casglu o gwmpas rhyw anifail anweladwy yn y môr. Rydw i’n stopio ar unwaith, ac yn defnyddio fy minocwlars i edrych ar y dŵr o dan y gwylanod. Does dim byd i’w weld. Rwy’n sefyll yn stond am ddeng munud, gan roi straen ar fy llygaid yn chwilio am arwydd o fywyd ar wyneb y dŵr. Yna, yn sydyn, mae siâp tywyll nodweddiadol yn torri drwy wyneb y dŵr, yn rhoi ei ben i fyny am ychydig eiliadau, ac yna mae’n llithro’n dawel o dan yr wyneb gan symud tua’r cychod hwylio sydd wedi angori gerllaw. DYFRGI!!! Prin y gallwn ei gredu. Roeddwn i newydd weld Dyfrgi am y tro cyntaf ym Mhen Llŷn.


Mae’n anodd credu bod dyfrgwn yn byw yn y dyfroedd yr holl ffordd o amgylch arfordir Pen Llŷn, yn enwedig o ystyried cyn lleied o bobl sy’n eu gweld nhw a pha mor anodd ydyn nhw i’w gweld yma. Ac eto, mae oel dyfrgwn (fel eu baw a’u gwalau) wedi’u gweld ym mhob un o’n systemau afonydd bach bron â bod – Afon Daron, Afon Soch ac Afon Dwyfor, er enghraifft. Un o’r prif resymau pam nad oes llawer o bobl yn eu gweld yw oherwydd eu natur nosol: maen nhw’n tueddu i fod yn fwyaf egnïol yn y tywyllwch. Ond, fel y gwelais i ar y diwrnod gwlyb hwnnw ym mis Mawrth, gallwch fod yn ddigon ffodus weithiau i gael cipolwg arnyn nhw ar wyneb y dŵr yn ystod golau dydd. Felly cadwch lygad amdanyn nhw yn Llŷn, a pheidiwch ag anghofio cyflwyno unrhyw wybodaeth i ganolfan gofnod Gogledd Cymru: Cofnod – Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru | Hafan.


Cyfeirnodau:


10. ‘Ireland's Animals - Myths, Legends and Folklore’ gan Niall Mac Coitir.

11. Tohall, P. (1948). The Dobhar-Chú Tombstones of Glenade, Co. Leitrim (Cemetries of Congbháil a Cill-Rúisc). The Journal of the Royal Society of Antiquaries of Ireland, 78(2), 127-129. Cyrchwyd Mai 21, 2021, yn http://www.jstor.org/stable/25510654



bottom of page