Dolffin trwyn potel - Deilf bholgshrónach -Tursiops truncatus   

Sut i’w adnabod

Diolch i’r hen gyfres enwog ‘Flipper’, mae llawer o bobl yn gyfarwydd â dolffiniaid trwyn potel. Maen nhw’n fawr (2.50 i 3.80m o hyd) ac mae ganddyn nhw gorff cadarn. Mae eu pig yn fyr ac yn drwchus, gyda chrych amlwg rhyngddo a’r talcen. Maen nhw’n llwyd tywyll gyda gwaelod golau ac nid oes ganddyn nhw farciau pendant. Mae eu hesgyll dorsal crwm hanner ffordd i lawr eu cefn. 


Dolffiniaid trwyn potel o Fae Ceredigion – Leonie Schulz 

Ecoleg, dynameg gymdeithasol a nodweddion tymhorol

Mae dolffiniaid trwyn potel i’w cael mewn dyfroedd trofannol a thymherus, yn ogystal â dyfroedd arfordirol. Mae gan Iwerddon boblogaeth breswyl unigryw sy’n byw yn Aber Shannon, ond mae un boblogaeth arfordirol ac un arall yn y môr wedi’u cofnodi hefyd. Mae gan y rhan fwyaf o boblogaethau amrediad cartref lle maen nhw’n aros drwy gydol eu hoes yn hytrach na mudo. Er bod poblogaethau arfordirol fel arfer yn ffurfio grwpiau bach o 2 i 15 o anifeiliaid, ceir grwpiau mwy mewn poblogaethau ar y môr. Maen nhw’n bwydo ar eog, swtan glas, gwyniad môr, mecryll, pysgod gwyn ac môr lewys. Mae ganddyn nhw arferion bwydo gwahanol yn dibynnu ar lle maen nhw’n byw a beth maen nhw’n ei fwyta. Mae dolffiniaid trwyn potel yn gallu bod yn egnïol iawn ac yn aml maen nhw’n cael eu gweld yn neidio’n gyfan gwbl allan o’r dŵr. 


Dolffiniaid trwyn potel ar hyd arfordir Iveragh

Tra bo poblogaeth dolffin Shannon yn aros yn aber Shannon yn bennaf ac mewn cilfachau cyfagos (Tralee a Brandon), gellir gweld poblogaethau eraill o Iveragh. Maen nhw wedi cael eu gweld fwyaf diweddar o'r tir yn Portmagee, Caherdaniel ac oddi ar Ynys Valentia, gyda grwpiau o hyd at 22 o anifeiliaid. Ond gellir dod ar eu traws hefyd mewn cwch o amgylch Ynysoedd Skellig. Cofnodwyd anifeiliaid yn sownd hefyd, ee yn Waterville. 


Dolffiniaid trwyn potel o gwmpas Pen Llŷn

Mae ochr ddeheuol Penrhyn Llŷn yn ffinio â Bae Ceredigion, sy’n gartref i boblogaeth fawr, led-breswyl, o ddolffiniaid trwyn potel sy’n cynnwys oddeutu 150-200 o unigolion. Mae’n bosibl adnabod llawer o’r anifeiliaid hyn drwy edrych ar luniau a chwilio am yr esgyll dorsal sydd fel arfer yn dangos crafiadau a siapiau nodweddiadol. Ffordd arall o adnabod unigolion yw drwy gofnodi eu synau clicio a’u chwibanau unigryw. Mae ymchwil diweddar wedi darganfod bod gan ddolffiniaid Bae Ceredigion eu tafodiaith eu hunain wrth gyfathrebu â’i gilydd. Canfuwyd bod eu chwibanau’n uwch na phoblogaethau eraill a astudiwyd. Felly, yn y bôn, mae ganddyn nhw eu hiaith Gymraeg eu hunain!


Mae’r moroedd o gwmpas y penrhyn yn rhan o SAC Pen Llŷn a’r Sarnau (ardal cadwraeth arbennig), ac mae dolffiniaid trwyn potel yn nodwedd o’r ardal hon. Pentiroedd ar ochr ddeheuol y penrhyn sy’n cynnig golygfa eang yw’r llefydd gorau i chwilio am ddolffiniaid trwyn potel, ac mae diwrnod tawel bob amser yn helpu. Mae Llwybr Arfordir Cymru rhwng Abersoch a Phorth Ceiriad yn lle da i gadw llygad arnyn nhw. Sefydlwyd cynllun monitro Gwylio Dolffiniaid yn Abersoch yn 2016 sy’n monitro ymddygiad cychod hamdden yn y dyfroedd o ran dolffiniaid. Mae hyn yn sicrhau diogelwch mamaliaid morol yn y bae, gan fod ‘Gwylwyr Dolffiniaid’ yn diogelu bod arsylwadau’n digwydd o bellter priodol ac nad ydyn nhw’n effeithio ar ymddygiad dolffiniaid.