top of page
Curlew 2.jpeg

Diwrnod Rhyngwladol y Gylfinir

Diwrnod Rhyngwladol y Gylfinir

Ebrill 21, 2021

Mae Diwrnod Rhynglwadol y Gylfinir yn fenter ar lawr gwlad, a gefnogir gan sefydliadau amgylcheddol mawr ar draws y byd. Mae'r diwrnod rhyngwladol yma'n cael ei ddathlu'n flynyddol ar Ebrill y 21ain. Mae'n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth a gwella ein dealltwriaeth o'r aderyn arbennig yma, yn y gobaith y gallwn ni ei achub rhag diflannu am byth.

 

Datblygwyd yr adnoddau hyn ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Gylfinir, maent hefyd rhan ehangach o raglen addysg amgylcheddol cynllun LIVE . Nôd yr adnoddau hyn yw codi ymwybyddiaeth am dreftadaeth naturiol Penrhyn Iveragh yn Iwerddon, a Phen Llŷn yng Nhymru.

 

Gellir eu defnyddio ar unrhyw adeg i helpu i ddysgu mwy am y gylfinir. Er bod y deunyddau yn canolbwyntio ar Iveragh a Phen Llŷn, gallwch ei addasu i weddu i'ch ardal eich hun. Cysylltwch â'ch grŵp Cadwraeth Adar Lleol i gael mwy o wybodaeth, neu beth am gynnal prosiect ddosbarth i greu eich Pecyn Addysgol y Gylfinir eich hun a'i rannu o amgylch eich cymuned.

Ffilm fer am y Gylfinir

Mae’r ffilm fer hon, a gynhyrchwyd gan  Ben Porter a Linda Lyne, ar gyfer cynllun LIVE, yn rhoi trosolwg o’r Gylfinir Ewrasiaidd - a’r hyn sy’n cael ei wneud i geisio achub y rhywogaeth enigmatig hon rhag difodiant ledled Prydain Fawr ac Iwerddon.

Adnoddau Dydd y Gylfinir

Datblygwyd yr adnoddau hyn gan Gasglwyr Gwybodaeth cynllun LIVE, gyda chymorth Rhaglen Cadwraeth y Gylfinir.

*Bydd adnoddau lleol i Ben Llŷn yn cael eu hychwanegu i'r dudalen hon yn fuan*

Cyflwyniad (Seasneg) 'Lets talk about Curlews'

Mae posib llawrlwytho'r cyflwyniad saesneg drwy glicio ar y botymau isod.

Taflenni gwaith y gellir eu hargraffu, sy'n addas ar gyfer gwahanol oedrannau

Llawrlwythwch ein taflenni gwaith drwy glicio isod, maent yn cynnwys ffeithiau difyr, taflenni lliwio a phosau am y Gylfinir! Addas ar gyfer gwahanol oedrannau.

Curlew_edited.jpg

Galeri Gylfinir

Gweithdy Gylfinir

gyda Ysgol Crud y Werin, Aberdaron

Mae plant Ysgol Crud y Werin, Aberdaron wedi bod yn hynod brysur dros yr wythnosau diwethaf. Yn dilyn gweithdy ar fywyd gwyllt gan Robert a Ben o brosiect LIVE, mae’r plant wedi bod wrthi’n brysur yn cofnodi a dysgu am rywogaethau adar Pen Llŷn. Un o’r rhywogaethau yma yw’r gyflinir, dyma ddetholiad o luniau’r plant. Rydym wrth ein bodd gyda pob un ohonynt!

bottom of page