top of page

Brân Goesgoch Iveragh

Brân Goesgoch Iveragh

Mae’r frân goesgoch yn un o rywogaethau brain mwyaf unigryw Iwerddon. Os gallwch fynd yn ddigon agos i weld ei choesau coch llachar a’i phig coch, fe sylwch fod y nodweddion hyn yn ei gwneud yn wahanol i’r holl frain eraill sydd i’w gweld yn nhirwedd Iwerddon. Hyd yn oed o bellter, mae gan frain coesgoch rai nodweddion defnyddiol sy'n ei gwneud hi’n hawdd eu hadnabod.

 

Eu crawcian uchel yw’r arwydd cyntaf yn aml fod brain coesgoch gerllaw. Gan nad ydyn nhw’n mudo, gellir clywed eu galwad yn canu o gwmpas wynebau clogwyni arfordirol a glaswelltiroedd amaethyddol arfordir gogledd, gorllewin a de Iwerddon drwy gydol y flwyddyn. Ceir brain coesgoch mewn niferoedd mawr ar draws de-orllewin Iwerddon, gyda’r siroedd Kerry a Cork ymhlith y mannau mwyaf poblogaidd ar gyfer brain coesgoch.

 

Mae penrhyn Iveragh yn gartref gwych i frain coesgoch am ddau reswm. Y cyntaf yw’r doreth o glogwyni arfordirol creigiog i frain coesgoch adeiladu eu nythod. Yr ail reswm yw’r system ffermio sy’n parhau mewn rhannau o’r penrhyn.

Mae’r gwartheg a’r defaid sy’n pori tirwedd arfordirol Iveragh yn cynnig cyfleoedd i frain coesgoch chwilio am greaduriaid di-asgwrn-cefn yn y pridd fel chwilod, morgrug, pryfed clustiog, a larfa gwyfynod a phryfed. Mae ffiniau caeau fel cloddiau glaswelltog, waliau cerrig a chloddiau pridd sy’n rhedeg ar dir amaethyddol Iveragh hefyd yn fannau gwych i frain coesgoch chwilota am fwyd, gan eu bod yn gartref i gynifer o hoff eitemau ysglyfaeth yr aderyn.

Arolwg Brân Goesgoch Iveragh a Pen Llŷn
10:00 - 13:00
Dydd Sadwrn, Mawrth 12, 2022
Lleoliadau ar draws Pen Llŷn

Ymunwch â ni bore dydd Sadwrn, Mawrth 12fed i gynnal arolwg ar y Frân Goesgoch ym Mhen Llŷn.

 

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i gyfri niferoedd Brain Goesgoch ar draws Pen Llŷn. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal mewn sawl lleoliad a bydd hyn ein cynorthwyo i ddysgu mwy am niferoedd a chynefinoedd yr adar eiconic hyn.

Bydd yr adnoddau isod yn eich helpu i gynnal 'Arolygon Brain Coesgoch' yn eich ardal chi. Bydd eich arolygon yn werthfawr iawn ac yn  ein cynorthwyo i ddysgu mwy am niferoedd a chynefinoedd yr adar eiconic hyn.

Cyflwyno Arolwg Brân Goesgoch Iveragh
Cyflwyno Arolwh Arlein
Cyflwyno Arolwg Papur
Adnabod y Frân Goesgoch
Chough pair - Llyn Peninsula - Ben Porter.jpg
Red Billed Chough Survey
Dysgu mwy am y Frân Goesgoch
Adnoddau
Addysgol
LIVE webiste icons_Discover.png

Mae LIVE wedi datblygu nifer o adnoddau addysg i roi rhagor o wybodaeth am ecoleg y frân goesgoch, a sut y gall rhannau o dirwedd arfordirol Iwerddon roi’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gynnal poblogaethau iach.

Y cyntaf o’r adnoddau hyn yw cyflwyniad PowerPoint a fydd, gobeithio, yn helpu myfyrwyr i ddeall rhagor am y frân goesgoch a’i lle yn nhirwedd Iwerddon.

Llawrlwythwch ein adnoddau ar y Frân Goesgoch

Gallwch lwytho taflenni gweithgareddau brain coesgoch hwyliog i lawr yma i’w defnyddio ar eu pen eu hunain, neu i ategu’r Cyflwyniad PowerPoint.

Chough close-up - Llyn Peninsula - Ben Porter.jpg
Sgwrs arlein

Ar dydd Mercher, Medi'r 8fed cyflwynodd Fiach Byrne, un o Gasglwyr Gwybodaeth LIVE ei brosiect ymchwil sy'n seiliedig ar y Frân Goesgoch.

Cliciwch y ddolen i wylio'r cyflwyniad

Oriel y Frân Goesgoch

Detholiad o luniau o’r Frân Goesgoch yn Iveragh ac ym Mhen Llŷn

Mwy o wybodaeth am y Frân Goesgoch

Darllenwch rai o’n blogiau blaenorol am y Frân Goesgoch, a gweld sut mae brain coesgoch Iveragh yn cymharu â’u cefndryd o Gymru:

 

Prosiect Ymchwil

I ddod yn fuan!

Chough in flight.png
Mae'r Frân Goesgoch yn rhywogaeth a warchodir o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt
bottom of page