Cyflwyniad i’r ddau aderyn:
Mae’r Ydfran a’r Jac-do yn ddwy rywogaeth gymdeithasol iawn o deulu’r brain. Maen nhw’n treulio cyfran fawr o’u hamser yng nghwmni aelodau o’u rhywogaethau eu hunain, yn ogystal â brain eraill. Byddwch yn aml yn gweld haid fawr o ydfrain yn chwilota am fwyd neu’n nythu wrth ymyl heidiau yr un mor fawr o jac-dos.
Ydfran - Rúcach - Rook - Corvus frugilegus
Sut i adnabod yr ydfran:
Er bod yr ydfran yn rhannu llawer o nodweddion brain eraill, mae rhai nodweddion penodol sy’n helpu i’w hadnabod. Mae gan yr ydfran wyneb gwelwach a phig main sydd fel arfer yn oleuach ei liw na phig y gigfran neu’r frân dyddyn. Mae ganddynt dalcen syth sy’n arwain at goron bigfain. Chwiliwch hefyd am y ‘trowsus llac’ sy’n eu gosod ar wahân i frain eraill.
Ydfran yn chwilota am fwyd – sylwch ar y pig main a’r wyneb golau sy’n helpu i’w hadnabod. Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter.
Ecoleg, dynameg gymdeithasol a nodweddion tymhorol:
Mae safleoedd nythu ydfrain i’w gweld yn aml ym mrigau’r coed mewn trefi a phentrefi ac yng nghefn gwlad yn gyffredinol. Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r safleoedd nythu hyn yn gwybod am yr crawcian aflafar wrth i’r tenantiaid setlo am y noson!
Fel llawer o frain eraill, mae deiet yr ydfran yn amrywiol iawn. Maen nhw’n bwydo ar greaduriaid di-asgwrn-cefn sy’n byw yn y pridd, fertebriaid bach, celanedd anifeiliaid ac amryw blanhigion, yn cynnwys cnydau. Mae nythod Ydfrain yn cael eu hadeiladu neu eu trwsio flwyddyn ar ôl blwyddyn er mwyn paratoi ar gyfer y tymor bridio o fis Chwefror i fis Ebrill. Maen nhw’n defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu fel brigau, priciau a gwreiddiau, sy’n cael eu hatgyfnerthu ymhellach gan laswellt, dail a mwsogl sych. Mae hyd oes ydfran ar gyfartaledd yn amrywio o 6 i 7 mlynedd. 1, 2, 3, 4
Nythfa ydfrain. Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter.
Chwedlau a llên gwerin yn gysylltiedig â’r ydfran:
Lle mae ydfrain yn ymddangos mewn chwedloniaeth, fe’u portreir at ei gilydd fel adar drwg, sy’n gysylltiedig â marwolaeth, neu fel adar tywyllodrus. Ystyr enw Lladin yr ydfran, Corvus frugilegus, yw y gigfran sy’n casglu ffrwythau, ac mae hyn yn deillio o dueddiad ydfrain i fwydo ar gnydau, ffrwythau a planhigion eraill. Gan hynny, mae’n debyg mai’r ydfran sydd fwyaf cyfrifol am ddefnydd helaeth ffermwyr o fwganod brain. 5
Nodyn arbennig ar Iveragh:
Mae gan Iwerddon boblogaeth fawr o ydfrain sy’n gyffredin ar draws y wlad. Nid yw Iveragh yn eithriad yn hyn o beth, gyda heidiau mawr i’w gweld yn chwilota am fwyd ochr yn ochr â jac-dos ar dir lle mae defaid a gwartheg yn pori. Os ewch chi drwy bentref Ballinskelligs neu Chapeltown ar Ynys Valentia ar noson o aeaf, mae’n bosib iawn y bydd ydfrain i’w clywed yn y coed o amgylch y pentrefi.
Nodyn arbennig ar Benrhyn Llŷn:
Mae nifer o nythfeydd yma ac acw ym Mhen Llŷn sy’n llawn sŵn adar ifanc o fis Mawrth ymlaen; mae eu dychweliad yn arwydd fod y gwanwyn wedi cyrraedd. Mae rhai safleoedd nodedig lle gellir gweld yr ydfran yn cynnwys y coed ynn a masarn aeddfed o gwmpas Plas yn Rhiw, a’r goedlan fechan ger Porthor. Gwelir ydfrain ledled cefn gwlad Llŷn yn ystod gweddill y flwyddyn, yn ymgynnull gyda rhywogaethau eraill i glwydo yn y cyfnos drwy fisoedd y gaeaf.
Jac-y-do - Cág - Jackdaw - Corvus monedula
Beth sydd mewn enw?
Oherwydd natur ddireidus y Jac-do a’i hoffter honedig o ddwyn darnau arian a mân bethau gloyw eraill, mae enw Lladin y rhywogaeth, monedula yn tarddu o’r gwreiddyn moneta sy’n golygu ‘arian’. Bydd gennym fwy i’w ddweud am gampau’r jac-do yn yr adran ar lên gwerin isod!
Sut i adnabod y jac-do:
Mae’r jac-do fymryn yn fwy na’r bioden ond yn llai na’r ydfran. Maent yn llafar iawn, felly byddwch yn aml yn clywed eu crawcian uchel yng nghefn gwlad. Mae corff y jac-do yn hollol ddu neu’n lwyd tywyll, tra bo cefn ei ben a’i wddf yn arian/llwyd goleuach.
Ecoleg, dynameg gymdeithasol a nodweddion tymhorol:
Mae deiet y jac-do yn amrywiol iawn, ac mae hynny’n golygu ei fod yn gallu manteisio’n llwyddiannus ar amrywiaeth eang o gynefinoedd. O’r herwydd, maent i’w gweld mewn trefi, pentrefi, coetiroedd a thirweddau amaethyddol ac arfordirol ehangach yng Nghymru ac Iwerddon. Maent yn aml yn nythu ar glogwyni ac mewn coed, tai gweigion, simneiau a chlogwyni. Mae’r jac-do yn gwneud ei nyth o amrywiaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys brigau, mwd, tail, mwsogl, plu, gwlân a ffwr. Mae’r ceiliog a’r iâr yn paru’n barhaol yn eu blwyddyn gyntaf ac yn mynd ymlaen i fridio yn y flwyddyn ganlynol6. Mae eu nyth yn cael ei adeiladu neu ei drwsio mewn pryd ar gyfer y tymor magu yng nghanol mis Ebrill. 7
Maent hefyd yn adar cymdeithasol iawn. Maen nhw’n treulio cyfran fawr o’u hamser yn bwydo ac yn clwydo gyda’i gilydd mewn parciau, gerddi, porfeydd, caeau cnydau, ac ar hyd llinell pen llanw ar draethau. Mae jac-dos yn aml yn chwilio am fwyd ochr yn ochr ag ydfrain ac yn aml yn adeiladu eu nythod ger nythod ydfrain. Yn gyffredinol, mae eu deiet yn cynnwys ffrwythau, hadau, creaduriaid di-asgwrn-cefn, celnedd anifeiliaid, sbarion ac wyau. 8, 9
Jac-dos yn clwydo yn y coed. Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter.
Chwedlau a llên gwerin yn gysylltiedig â’r jac-do:
Mewn chwedloniaeth, mae’r jac-do yn cael ei ystyried yn aderyn ffôl, balch a direidus, yr honnir yn aml fod ganddo dueddfryd i ladrata. Mae hynny’n cael ei gyfleu’n dda yn chwedl R.H Barham The Jackdaw of Rheims. Mae’r chwedl ysmala hon yn adrodd hanes jac-do lladratgar a felltithiwyd (am ddwyn modrwy Cardinal) a ddaeth yn sant. 10
Mae’r hen ddywediad Groeg: “Bydd yr elyrch yn canu pan fydd y jac-dos yn dawel” yn awgrymu y bydd rhywun gwybodus yn aros nes bydd yr ynfyd wedi tewi cyn dechrau dweud ei ddweud. Mae hyn yn dangos sut yr ystyrrid y jac-do yn aderyn ynfyd mewn rhai diwylliannau.
Nodyn arbennig ar Iveragh:
Mae Jac-dos yn gyffredin iawn yn Iveragh, gyda digonedd i’w gweld yn edrych i lawr simneiau, yn clwydo ar ysguboriau ac yn chwilota am fwyd yn y caeau yng nghyffiniau cylchdaith Bolus , y llwybr ar hyd ben yr allt yn Reenroe a Reenard.
Nodyn arbennig ar Benrhyn Llŷn:
Mae’r ardaloedd helaeth o dir fferm a phorfeydd yn Llŷn yn darparu cynefin rhagorol i’r rhywogaeth gyffredin hon o deulu’r brain. Gwelir Jac-dos mewn heidiau mawr dros fisoedd y gaeaf, yn clwydo’n aml gydag ydfrain a brain tyddyn mewn trefi fel Pwllheli a choedwigoedd fel Plas yn Rhiw. Mae’r mannau nythu yn amrywio o glogwyni Porth Meudwy, i dyllau yn y coed o gwmpas Plas Glyn-y-Weddw, i’r potiau simnai yn y rhan fwyaf o drefi a phentrefi’r penrhyn.
Jac-dos yn dychwelyd i glwydo gyda’r nos. Darparwyd gan y casglwr gwybodaeth, Ben Porter.
Comentários