top of page

Morfilod a Dolffiniaid Iveragh

Ydych chi erioed wedi edrych ar y môr ac wedi meddwl tybed beth sydd rhwng y tonnau? Mae gan Iveragh dros 200km o arfordir trawiadol gyda llawer o lefydd delfrydol i chwilio am fywyd dan y don. Dyna lle mae morfilod, dolffiniaid a llamidyddion yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser. Dim ond yn ystod yr adegau prin hynny pan fyddan nhw’n dod i’r wyneb i anadlu, bwydo, llamu a chymdeithasu y byddwn yn cael ein cyfle i gael cipolwg ar eu bywydau.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am ba rywogaethau y gallwch chi eu gweld yn y dyfroedd o gwmpas Iveragh, sut i’w hadnabod, sut i wneud eich gwaith gwylio eich hun a sut gallwch chi gymryd rhan yn y prosiect LIVE fel ddinesydd-wyddonydd, yna rydych chi yn y lle iawn.

LIVE webiste icons_Walking Trail-12.png
Dewch i wylio!

Casglwyd llawer o ddata ar forfilod, dolffiniaid a llamhidyddion (teulu’r morfil) yn Iwerddon, yn bennaf drwy ymgysylltu â Grŵp Morfilod a Dolffiniaid Iwerddon. Fel rhan o’r Prosiect LIVE ar Iveragh, rydyn ni eisiau dod o hyd i’r llefydd gorau i weld morfilod a dolffiniaid a chael pobl i gymryd rhan yn y gwaith o gofnodi’r hyn maen nhw’n ei weld. I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch y sgwrs ar-lein hon gan y biolegydd morol Christina Winkler, neu darllenwch ei blogiau ar deulu’r morfilod. Rhan o’r prosiect yw cymryd rhan mewn digwyddiadau gwylio bob mis a denu’r cyhoedd i ymuno a dysgu sut i fynd ati i wylio eu hunain. Bydd cofnodion sy’n cael eu casglu o’r gwaith gwylio drwy gydol y flwyddyn yn helpu pobl leol ac ymwelwyr i ddeall lle rydyn ni fwyaf tebygol o ddod o hyd i’r anifeiliaid anhygoel hyn ar wahanol adegau o’r flwyddyn.

View off Hog's Head.jpg

Capsiwn: Yr olygfa o H0gs Head, Iveragh

Llwybr y Morfilod

Ar ôl treulio misoedd yn chwilio am forfilod, dolffiniaid a llamhidyddion o bentiroedd a chychod, chwilio am wybodaeth o ffynonellau eraill, yn ogystal â siarad â phobl yn lleol, mae gennym syniad eithaf da o’r llefydd gorau ar Iveragh i weld rhywfaint o giamocs y morfilod! Cymerwch gipolwg ar ein map ‘Llwybr y Morfilod’ i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch ei weld a ble i edrych.

Gallwch hefyd weld y map sy’n dangos y data sydd wedi cael ei gyflwyno i Grŵp Morfilod a Dolffiniaid Iwerddon a’i gasglu drwy’r prosiect LIVE ers i’r prosiect ddechrau.

LIVE webiste icons_Walking Trail.png
LIVE webiste icons_Walking Trail.png
Walk the whale trail
IWDG-logo-white_2x.png
Rhoi gwybod am weld Morfil yn y môr neu'n sownd

Mae LIVE yn falch o gydweithio â Grŵp Morfilod a Dolffiniaid Iwerddon (IWDG). Bydd dros 30 mlynedd o brofiad o gofnodi a dilysu data yn cael ei roi ar waith, pan fyddwch chi’n cyflwyno’r hyn rydych chi’n ei weld i’r IWDG. Bydd nodi ‘Prosiect LIVE’ ar ôl eich enw wedyn yn caniatáu i ni hidlo’r cofnodion hynny sy’n benodol i’r penrhyn, mapio cofnodion ac edrych ar newidiadau a thueddiadau o ran gweld morfilod yn y môr ac yn sownd ar y lan dros amser. Bydd unrhyw ddata a gesglir drwy’r prosiect LIVE hefyd ar gael i bawb ar ein gwefan.

Report
5.3CommonDolphinPorpoising_Christina.JPG
Cofio Cyn Cychwyn...
mynd i wylio Morfilod

Er bod gwylio morfilod o’r tir yn darparu data pwysig iawn, mae llawer ohonom hefyd eisiau mwynhau taith ar y cwch, gan obeithio y daw’r ‘angenfilod y môr’ hynny i’r amlwg. Fodd bynnag, wrth wylio morfilod o'r cwch, rhaid rhoi ystyriaeth arbennig i osgoi tarfu arnyn nhw. Rydyn ni’n gwneud hyn oherwydd parch ac ystyriaeth i’r anifeiliaid hardd hyn, ond hefyd oherwydd diogelwch cyfreithiol, fel yr amlinellir yn Neddf Bywyd Gwyllt (1976). Felly, mae canllawiau cyfreithiol wedi cael eu datblygu o dan Hysbysiad Morol Rhif 15 2005, sy’n cael eu gorfodi i gael eu dilyn

Know Before You Go
Blogs 
LIVE webiste icons_Latest Blog.png
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Ffeithluniau
LIVE webiste icons_Walking Trail-09.png
Blogs and Infographics
View off Gleesk Pier.jpg
Adnoddau Addysg

Er mwyn galluogi busnesau lleol, twristiaid ac addysgwyr i baratoi’n haws ar gyfer sgyrsiau, ymweliadau a chyflwyniadau, rydyn ni wedi llunio pecyn cyfan o adnoddau gwybodaeth. Mae’r rhain yn rhannol benodol i benrhyn Iveragh (taflenni ffeithiau), sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am fegafauna morol eraill, ond maen nhw hefyd yn cynnig deunydd mwy cyffredinol ar forfilod. Gobeithio y byddwch yn eu mwynhau!

Cornel i blant
LIVE webiste icons_Discover.png
Educational Resources
bottom of page