top of page
Cardigan © Nant 94.jpg

Gŵyl Archeoleg Llŷn

Be su 'mlaen?

Meillionydd Excavation.JPG
ARDDANGOSFA MEILLIONYDD 
Medi 12 - 16 | Oriel Plas Glyn y Weddw

Ymunwch â thim archeoleg Prifysgol Bangor yn Oriel Plas Glyn y Weddw Llanbefrog i ddysgu mwy am waith cloddio Meillionydd, lloc cylchfyr ddwbl, ger Rhiw ym Mhen Llŷn.

 

Bydd arddangosfa fechan yn yr amgueddfa yn arddangos creiriau o'r gwaith cloddio rhwng 2010 a 2017. 

Cardigan © Nant 94.jpg
Gweithdai modelu 3D
Darganfod Oes yr Haearn ym Mhen Llŷn
Digideiddio creiriau Oes yr Haearn o Ben Llŷn
Medi - Tachwedd - 10:30 - 14:30
Oriel Plas Glyn y Weddw
BH_WelshLogo_Standard_CMYK.png

Galwch draw i Oriel Plas Glyn y Weddw i ddysgu sut mae dehongli a chreu modelau ffotograffig 3D o rai o’r creiriau Oes yr Haearn o safle Meillionydd - lloc cylchfur ddwbl ar Fynydd Rhiw. Bydd y modelau sydd yn cael eu creu yn ystod y gweithdai yn cael eu cyflwyno mewn arddangosfa ddigidol o Meillionydd fydd yn cae ei chyhoeddi yn mis Tachwedd. Mi fydd rhaid archebu lle o flaen llaw cyn mynychu.

Archebu eich lle
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ŵyl Bod yn Ddynol, gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU, a gynhelir 10–19 Tachwedd 2022. Am ragor o wybodaeth ewch i beinghumanfestival.org

Teithiau archeoleg
Nefyn Boat Building.jpeg
TAITH HANESYDDOL NEFYN
Hydref 31 | Amgueddfa Forwrol Llŷn

Ymunwch â Rhys Mwyn am daith hanesyddol o gwmpas dref hanesyddol Nefyn. Bydd yr helfa'n cychwyn yn yr Amgueddfa Forwrol yna'n crwydro drwy hen stydoedd Nefyn gan orffen yn y twr.

Mae'n digwyddiad hwn yn addas ar gyfer plant a theuluoedd.

Eglwys St Hywyn Aberdaron.png
TAITH ARCHEOLEG ABERDARON
Tachwedd 1 | Porth y Swnt

Mae Aberdaron yn bentref glan môr hyfryd ym mhen de-orllewinol Llŷn. Mae’n gorwedd ar hyd llwybr y pererinion i Ynys Enlli ac, o ganlyniad, mae ganddo hanes hir. Ar y daith gerdded hon, byddwch yn darganfod rhai o’r safleoedd archaeolegol a hanesyddol lleol.

Mae'r daith hon yn addas ar gyfer cadair olwyn.

Cardigan © Garn Fadryn 1.jpg
TAITH ARCHEOLEG GARN FADRYN
Tachwedd 2 | Garnfadryn

Ar y daith gerdded hon byddwn yn ymweld â bryngaer Garn Fadryn. Mae'r safle'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn ac yn yno fe welwch olion tai crynion a chastell ganoloesol. Dewch am dro i ddarganfod mwy am y safle arbennig hwn.

 

Mae'r daith gerdded yma yn addas ar gyfer pobl â lefelau da o ffitrwydd sydd wedi arfer cerdded fyny'r mynyddoedd

bottom of page