top of page
Garn-Fadryn-1_edited.jpg

Mesur Effaith Twristiaeth

Nod LIVE (Ecoamgueddfeydd LlÅ·n IVeragh) yw galluogi cymunedau arfordirol i hyrwyddo asedau naturiol a diwylliannol y ddau benrhyn, sef Pen LlÅ·n yng ngogledd Cymru (Gwynedd), ac Iveragh yn ne-orllewin Iwerddon (Kerry). O’r herwydd, mae LIVE yn cynnal ymchwil twristiaeth i edrych ar gyfleoedd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig y tu allan i’r tymor twristiaid brig traddodiadol. Yn y ddogfen ganlynol, rydyn ni’n rhoi rhai manylion am y prosiectau ymchwil ar gyfer cyfranogwyr (posibl) ac unrhyw un a allai fod â diddordeb yn yr ymchwil.

​

Un agwedd bwysig ar LIVE yw’r cyfnewid gwybodaeth rhwng y ddau benrhyn. Felly, bydd data a chanfyddiadau dienw yn cael eu rhannu â phartneriaid y prosiect yng Nghymru ac Iwerddon. Bydd y canfyddiadau hefyd yn cael eu cyflwyno mewn digwyddiadau cyhoeddus (cymunedol), gweminarau, a gellir eu cyflwyno mewn cynadleddau a’u cyhoeddi mewn cylchgronau. Byddwn yn diweddaru’r dudalen we hon i nodi lle bydd y canfyddiadau’n cael eu cyflwyno.

Arolwg Canfyddiadau Amgylcheddol a Diwyllianol Iveragh – Canlyniadau’r arolwg

Ar gychwyn 2021, cymerodd 80 o bobl ran mewn arolwg gwybodaeth amgylcheddol o Benrhyn Iveragh. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon gan yr ymchwilydd Soli Levi.

 

Pwrpas yr arolwg oedd i gael cipolwg ar ganfyddiadau lleol o dreftadaeth naturiol Iveragh. Roeddem am ddysgu mwy am sut mae cymunedau lleol yn teimlo am eu hamgylchedd naturiol, rhwystrau i addysg amgylcheddol, roedd hefyd yn gyfle i roi awgrymiadau ar dwristiaeth gynaliadwy yn lleol. Trwy ofyn cwestiynau am y tirwedd leol, bywyd gwyllt a mapiau, creodd Soli fapiau diddorol sy'n dangos nodweddion naturiol a rhywogaethau sy'n bwysig i drigolion Iveragh. Cyfranodd y wybodaeth hon at ddatblygiad ein rhaglenni amgylcheddol ac addysgol ar benrhyn Iveragh.

LIVE webiste icons_Walking Trail-08.png
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ymwneud â/yn cynnal pedwar prosiect ymchwil
1

Ymgysylltu â threftadaeth naturiol a diwylliannol ar benrhyn LlÅ·n ac Iveragh

2

Creu profiadau ymwelwyr: Datblygu strategaeth dwristiaeth gynaliadwy ar gyfer Pen LlÅ·n, Cymru

3

Dangosyddion perfformiad allweddol – Canfod cyfleoedd twristiaeth cynaliadwy ac adfywiol ar Benrhyn LlÅ·n

4

Capasiti cynnal twristiaeth ar Benrhyn Iveragh

Cardigan-©-Nant-81.jpg
1. Ymgysylltu â threftadaeth naturiol a diwylliannol ar benrhyn LlÅ·n ac Iveragh

Astudiaeth ymchwil ar y cyfryngau cymdeithasol yw hon i ganfod sut, ble a phryd mae ymwelwyr a thrigolion ar benrhyn LlÅ·n ac Iveragh yn ymwneud â threftadaeth naturiol a diwylliannol. Nod yr astudiaeth yw ymchwilio i ddata daearyddol a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol (Instagram, Twitter, Flickr, Strava, Komoot, AllTrails a Wikiloc) i ganfod patrymau ymwelwyr a safleoedd ac asedau naturiol a diwylliannol poblogaidd, yn enwedig y tu allan i’r tymor twristiaid traddodiadol. Bydd data’r cyfnod ysbeilio hefyd yn cael eu defnyddio a’u cymharu â’r data twristiaeth a hamdden presennol (ee nifer yr ymwelwyr, lefelau boddhad ymwelwyr a phreswylwyr o ran safleoedd/asedau, cyfraniad twristiaeth at ddiogelu celfyddyd a diwylliant lleol, gwelliannau i seilwaith) er mwyn dod o hyd i gyfleoedd cynaliadwy ar gyfer twristiaeth naturiol a diwylliannol. Bydd yr astudiaeth hon yn ceisio ateb y cwestiynau a ganlyn:

 

  1. Ble mae trigolion ac ymwelwyr yn ymgysylltu â threftadaeth naturiol a diwylliannol ar y penrhyn?

  2. Sut mae trigolion ac ymwelwyr yn ymgysylltu â threftadaeth naturiol a diwylliannol ar y penrhyn o ran eu gweithgareddau?

  3. Pryd mae trigolion ac ymwelwyr yn ymgysylltu â threftadaeth naturiol a diwylliannol ar y penrhyn?

Engagement
Changes and Challenges
Beentee.jpeg
2. Creu profiadau ymwelwyr: Datblygu strategaeth dwristiaeth gynaliadwy ar gyfer Pen LlÅ·n, Cymru a Penrhyn Iveragh, Iwerddon

Rydym yn gwahodd pawb sy’n ymweld â Phen LlÅ·n neu Iveragh yr haf neu’r hydref hwn, neu sydd wedi ymweld â Phen LlÅ·n neu Iveragh yn y gorffennol, i gymryd rhan mewn arolwg ymwelwyr. Nod yr arolwg yw casglu gwybodaeth am ddiddordebau ymwelwyr yn y dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol sydd gan y penrhyn i’w gynnig, a sut y gallwn greu economi twristiaeth mwy cynaliadwy yma. Mae’r arolwg yn cynnwys holiadur, wedi’i rannu’n 5 adran:

​

1. Nodweddion teithio

2. Diddordebau diwylliannol

3. Diddordebau naturiol

4. Cynaliadwyedd

5. Demograffeg

​

Dylai gymryd tua 10-15 munud i gwblhau’r holiadur gan fod y rhan fwyaf o gwestiynau yn rhai amlddewis. Mae cyfle hefyd i ymatebwyr ysgrifennu mwy am eu profiadau, eu gobeithion a’u dyheadau drwy ateb rhai cwestiynau agored. Bydd yr ymatebion yn ein helpu i adnabod cyfleoedd i wella profiad ymwelwyr a thwristiaeth gynaliadwy ym Mhen LlÅ·n ac Iveragh. Rydym yn ddiolchgar iawn am amser a chyfranogiad pawb gan y bydd hyn yn cyfrannu at gyflawni amcanion ein prosiect: galluogi Pen LlÅ·n ac Iveragh i fod yn gartref ac yn gyrchfan, gan ddarparu cyfleoedd i gymunedau heddiw ac i’r dyfodol ffynnu yn eu bro eu hunain ar eu telerau eu hunain tra'n cyfoethogi profiad yr ymwelydd, a symud i ffwrdd o dwristiaeth 'echdynnol'.

​

Nod yr arolwg yw ateb y cwestiynau canlynol:

​

1) Beth yw'r patrymau presennol o bobl yn ymweld â Phen LlÅ·n/ Iveragh (ble/pryd/sut maen nhw'n ymweld â'r penrhyn a pha weithgareddau maen nhw'n eu gwneud)?

2) Beth mae ymwelwyr yn ei werthfawrogi fwyaf am Ben LlÅ·n/Iveragh?

3) Pa brofiadau diwylliannol/naturiol sydd o ddiddordeb i ymwelwyr?

4) Pa gyfleoedd sydd ar gael i gynnig profiadau mwy cynaliadwy i ymwelwyr?

Gwybodaeth fanwl i gyfranogwyr
Morfa Nefyn.jpeg
3. Dangosyddion perfformiad allweddol – Canfod cyfleoedd twristiaeth cynaliadwy ac adfywiol ar Benrhyn LlÅ·n

Mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, un o bartneriaid prosiect LIVE, a Pharc Cenedlaethol Eryri, rydyn ni’n datblygu dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer twristiaeth gynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys effeithiau cymdeithasol-ddiwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Fel rhan o’r broses, rydyn ni’n casglu data ac yn cynnwys canfyddiadau’r ddwy astudiaeth flaenorol i fesur y Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Y nod yw archwilio tueddiadau twristiaeth, gwerthuso’r cyd-destun twristiaeth presennol, a chanfod heriau a chyfleoedd ar gyfer datblygu twristiaeth gynaliadwy ym Mhenrhyn LlÅ·n. Bydd y prosiect hwn yn ceisio ateb y cwestiynau a ganlyn:

​

  1. Beth yw’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol pwysicaf ar benrhyn LlÅ·n?

  2. Beth yw’r bylchau mewn data i fesur y DPA?

  3. Beth yw’r prif heriau o ran datblygu camau gweithredu cynaliadwy ar gyfer twristiaeth?

  4. Sut y gellir troi’r cyfleoedd yn weithredoedd?

KPI's
Portmagee from Valentia.jpeg
4. Capasiti cynnal twristiaeth ar Benrhyn Iveragh

Mae’r Rhwydwaith Arsylwi Ewropeaidd ar Ddatblygu a Chydlyniant Tiriogaethol (ESPON) wedi comisiynu Sefydliad Astudiaethau Rhanbarthol Awstria a Phrifysgol Modul i gynnal prosiect ar y capasiti cynnal twristiaeth ym Mhenrhyn Iveragh. Mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid twristiaeth lleol, nod y prosiect yw asesu’r sefyllfa bresennol o ran twristiaeth er mwyn datblygu a siapio polisïau a chynlluniau gweithredu ar gyfer datblygiad cynaliadwy a thymor hir y diwydiant twristiaeth lleol, wrth i’r sector ddod allan o bandemig COVID-19. Bydd y prosiect hwn yn ceisio ateb y cwestiynau a ganlyn:

​

  1. Beth yw’r anghenion, y problemau a’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau twristiaeth yn yr ardal?

  2. Sut mae agweddau datblygu rhanbarthol (fel nodweddion cymdeithasol-ddiwylliannol ac economaidd) yn berthnasol i’r sefyllfa dwristiaeth yn yr ardal?

  3. Beth yw llif a chapasiti cynnal twristiaeth ar Benrhyn Iveragh?

  4. Sut mae rhanddeiliaid twristiaeth lleol yn diffinio twristiaeth gynaliadwy a sut y gellir troi hyn yn argymhellion polisi a chamau gweithredu?

Carrying Capacity
bottom of page