![](https://static.wixstatic.com/media/f59514_e0c7868b0e1c487091a43a34abb53900~mv2.jpg/v1/fill/w_980,h_695,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_auto/f59514_e0c7868b0e1c487091a43a34abb53900~mv2.jpg)
Rydym yn gwahodd pawb sy’n ymweld â Phen Llŷn neu Iveragh yr haf neu’r hydref hwn, neu sydd wedi ymweld â Phen Llŷn neu Iveragh yn y gorffennol, i gymryd rhan mewn arolwg ymwelwyr.
Nod yr arolwg yw casglu gwybodaeth am ddiddordebau ymwelwyr yn y dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol sydd gan y penrhyn i’w gynnig, a sut y gallwn greu economi twristiaeth mwy cynaliadwy yma.
Bydd yr holiadur yn cymryd oddeutu 10 - 15 munud i'w gwblhau. Cliciwch ar y ddolen berthnasol i gychwyn yr holiadur.
Mae cyfle hefyd i gyfranwyr ysgrifennu mwy am eu profiadau, a’u dyheadau drwy ateb rhai cwestiynau agored. Bydd yr ymatebion yn ein helpu i nodi cyfleoedd i wella’r profiad i ymwelwyr a’r cynnig twristiaeth gynaliadwy yma ym Mhenrhyn Llŷn ac Iveragh.
Nod yr arolwg yw ateb y cwestiynau canlynol:
Beth yw'r patrymau presennol o bobl yn ymweld â Phen Llŷn/ Iveragh (ble/pryd/sut maen nhw'n ymweld â'r penrhyn a pha weithgareddau maen nhw'n eu gwneud)?
Beth mae ymwelwyr yn ei werthfawrogi fwyaf am Ben Llŷn/Iveragh?
Pa brofiadau diwylliannol/naturiol sydd o ddiddordeb i ymwelwyr?
Pa gyfleoedd sydd ar gael i gynnig profiadau mwy cynaliadwy i ymwelwyr?
Rydym yn ddiolchgar iawn am amser a chyfranogiad pawb gan y bydd hyn yn cyfrannu at gyflawni amcanion ein prosiect: galluogi Pen Llŷn ac Iveragh i fod yn gartref ac yn gyrchfan, gan ddarparu cyfleoedd i gymunedau heddiw ac i’r dyfodol ffynnu yn eu bro eu hunain ar eu telerau eu hunain tra'n cyfoethogi profiad yr ymwelydd, a symud i ffwrdd o dwristiaeth 'echdynnol'. Os ydych yn fusnes lleol ym Mhen Llŷn neu Iveragh ac yn dymuno cael cardiau post i’w rhannu gyda’ch cwsmeriaid a’ch gwesteion, cysylltwch â ni a gallwn anfon rhai atoch. Oes oes ganddoch chi unrhyw ymholiad am yr arolwg hwn, anfonwch e-bost atom: live@ucc.ie.
![](https://static.wixstatic.com/media/d109a3_a626506410574622980515350f1ef06f~mv2.png/v1/fill/w_980,h_693,al_c,q_90,usm_0.66_1.00_0.01,enc_auto/d109a3_a626506410574622980515350f1ef06f~mv2.png)
![](https://static.wixstatic.com/media/f59514_56368dc1e40b4797afd15c251c0851a6~mv2.jpg/v1/fill/w_980,h_695,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_auto/f59514_56368dc1e40b4797afd15c251c0851a6~mv2.jpg)
Ewch i'n tudalen Ymchwil Twristiaeth i gael rhagor o wybodaeth am ymchwil y mae Cynllun LIVE yn ei wneud i archwilio cyfleoedd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig y tu allan i'r tymhorau twristiaeth traddodiadol.
Comments