Arolwg Brain Coesgoch Llŷn ac Iveragh

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ‘Arolwg Brân Goesgoch Llŷn ac Iveragh 2022’, sy’n cael ei drefnu gan LIVE a’r RSPB (Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar). Cynhelir arolygon brain coesgoch yr un pryd ar Benrhyn Iveragh (Sir Kerry, Iwerddon) a Phen Llŷn . Rydyn ni’n gobeithio annog cymaint o wirfoddolwyr â phosibl ar Iveragh a Phen Llŷn i gynnal arolygon o’r frân goesgoch fore dydd Sadwrn 12 Mawrth. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr am boblogaethau’r frân goesgoch o’r ddau benrhyn.


Llun agos o Frân Goesgoch wedi’i gymryd gan Ben Porter ym Mhen Llŷn.
Sut ydw i’n mynd ati i gynnal arolwg?

Byddwch chi’n cynnal arolwg drwy gerdded ar hyd llwybr sefydlog (rhwng 2 a 6 cilometr fel arfer), gan edrych o amgylch y dirwedd yn gyson ar gyfer brain coesgoch a gwrando’n ofalus iawn am eu galwadau. Gallwch gofnodi eich arolwg ar ‘daflen ddata’ barod, a fydd naill ai’n cael ei hanfon gan Fiach neu Rob pan fyddwch yn anfon e-bost atyn nhw. Gallwch hefyd ddod o hyd i awgrymiadau ar sut i adnabod y frân goesgoch pan fyddwch yn crwydro’r llwybrau drwy ddilyn y dolenni canlynol.





Yn y cyfnod sy’n arwain at yr arolwg yn Llŷn, bydd gweithdy arolwg o’r frân goesgoch ym Mynydd Mawr am 10am ddydd Sadwrn 26 Chwefror, ond ni fydd llawer o leoedd ar gael. Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal gan Jack Slattery, Swyddog Cadwraeth RSPB Cymru ar gyfer Eryri, Llŷn a Môn.



Enghraifft o lwybr arolwg (wedi’i amlinellu mewn gwyrdd) ar hyd twyni tywod Rossbeigh ar arfordir gogleddol Penrhyn Iveragh.
Y Frân Goesgoch

Mae’r frân goesgoch yn rhywogaeth eiconig ar Iveragh a Phen Llŷn. Mae hefyd yn rhywogaeth a warchodir sydd wedi dioddef dirywiad yn y boblogaeth yn ystod y degawdau diwethaf. Mae Iveragh a Phen Llŷn yn ddau gadarnle ar gyfer brain coesgoch Cymru ac Iwerddon, gyda’r ddau benrhyn yn cynnwys niferoedd sylweddol o adar. Mae’r arferion ffermio traddodiadol, ynghyd â thirweddau arfordirol y ddau benrhyn, yn darparu’r cyfuniad o safleoedd nythu, cynefinoedd bwydo a ffynonellau bwyd sydd eu hangen ar frain coesgoch i gynnal poblogaethau iach.


Er bod poblogaethau’r brain coesgoch ar Iveragh a Phen Llŷn yn gymharol sefydlog, maen nhw’n sensitif i newidiadau mewn arferion ffermio a phatrymau tywydd, yn ogystal ag unrhyw aflonyddwch a datblygiadau. Am y rheswm hwn, mae angen monitro poblogaethau’r frân goesgoch er mwyn deall yn well y bygythiadau y maen nhw’n eu hwynebu. Mae cydlynu hanner diwrnod o Arolwg y Frân Goesgoch yn ein galluogi i amcangyfrif nifer yr adar sy’n byw ym mhenrhyn Llŷn ac Iveragh. Bydd yr arolwg hefyd yn gallu dweud mwy wrthym am ardaloedd allweddol i frain coesgoch ar y ddau benrhyn, yn ogystal â’r cynefinoedd maen nhw’n dibynnu arnyn nhw.


Cydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon

Gyda chymorth eu gwirfoddolwyr, mae’r RSPB eisoes wedi cydlynu Arolwg y Frân Goesgoch ar Ben Llŷn yn y gorffennol. Y dull a ddefnyddiwyd ar Ben Llŷn oedd creu llwybrau y gall gwirfoddolwyr gerdded ar eu traws wrth chwilio am frain coesgoch. Mae’r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae wedi arwain at ddata hynod werthfawr am frain coesgoch Pen Llŷn. Eleni, bydd LIVE yn helpu arolwg yr RPSB ym Mhen Llŷn a byddwn yn efelychu eu dull gweithredu ar Benrhyn Iveragh. Bydd arolygon a gynhaliwyd gan wirfoddolwyr yn ystod Arolwg Brân Goesgoch Llŷn yn cyfrannu at eu rhaglenni monitro tymor hir ar y rhywogaeth. Bydd arolygon sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr yn ystod Arolwg Brân Coesgoch cyntaf erioed Iveragh yn sail i adroddiad ar ‘Frân Coesgoch Iveragh’, a fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2022. Bydd data Iwerddon hefyd yn cael ei rannu â chronfeydd data cyhoeddus fel y Ganolfan Ddata Bioamrywiaeth Genedlaethol a’r Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol a Bywyd Gwyllt.


Mapiau o benrhyn Iveragh yn ne orllewin Iwerddon a phenrhyn Llŷn yng ngogledd orllewin Cymru.


Sut alla i gymryd rhan?

Rydyn ni’n gofyn i’r holl gyfranogwyr fynd allan i gynnal yr arolwg fore dydd Sadwrn 12 Mawrth – gan orffen eich arolwg ddim hwyrach na 2pm. Os yw’r tywydd yn rhy arw ddydd Sadwrn, bydd yr arolwg yn cael ei ohirio tan y diwrnod canlynol – sef dydd Sul 13 Mawrth.


Os hoffech chi gymryd rhan yn Arolwg Brân Goesgoch Iveragh, gallwch gysylltu â Fiach: fbyrne@ucc.ie Gall Fiach awgrymu llwybr i chi a fyddai’n arbennig o ddefnyddiol i’r arolwg. Fel arall, os oes llwybr yr hoffech ei awgrymu, gallwch roi gwybod am fanylion y llwybr hwn i Fiach.


Os hoffech chi gymryd rhan yn Arolwg Brân Goesgoch Pen Llŷn, gallwch gysylltu â Rob: robert.parkinson@nationaltrust.org.uk. Gan nad hwn yw’r Arolwg Brân Goesgoch cyntaf i gael ei gynnal ym Mhen Llŷn, mae gan Rob restr barod o lwybrau y mae angen eu dilyn.